logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch leisiau’r nef

Clywch leisiau’r nef
Yn canu mawl i’n Harglwydd byw.
Pwy fel Efe?
Hardd a dyrchafedig yw.
Dewch canwn ninnau glod
I’r Oen ar orsedd nef,
Ymgrymwn ger ei fron;
Addolwn neb ond Ef.

Cyhoeddi wnawn
Ogoniant Crist ein Harglwydd byw,
Fu ar y groes
I gymodi dyn a Duw.
Dewch canwn ninnau glod
I’r Oen ar orsedd nef;
Ymgrymwn ger ei fron,
Addolwn neb ond Ef.

(Grym Mawl 1: 6)

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones
(All Heaven Declares, Noel a Tricia Richards)
Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk). Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint