logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch gân angylion

Clywch gân angylion, clywch eu llef,
Gwahoddir ni i gyd i’r wledd.
Mae Iesu’n galw plant y llawr
I ddod i brofi’r wledd yn awr.

Byrddau yn llawn o’i roddion Ef,
Profwch lawenydd Duw a’i hedd;
Yfwch yn awr o’i ddwyfol rin,
Fe dry bob chwerw ddŵr yn win.

Seiniwn ddiolch yn llawen nawr ar gân
Ac ymgollwn yng ngwres
yr Ysbryd Glân;
Dewch eisteddwch wrth fwrdd
y Brenin Mawr,
Mae’r wledd yn barod in yn awr.

Y galon drom a lawenha,
Y tlodion glywant newydd da;
Gorfoledd nef a daear sy’
Yn canmol gras ein Harglwydd ni.

(Unawdydd, gyda phawb yn adleisio pob llinell.)

Iesu,
Diolchwn.
Yn dy ras
Llawenhawn.
Iesu,
Diolchwn
Am dy gariad
Tuag atom ni.

The trumpet sound: Graham Kendrick cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1989 Make Way Music. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music.Defnyddir trwy ganiatâd.

(Grym mawl 1: 158)

PowerPoint