logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch beroriaeth swynol

Clywch beroriaeth swynol
engyl nef yn un
yn cyhoeddi’r newydd,
eni Ceidwad dyn:
canant odlau’r nefoedd
uwch ei isel grud
wrth gyflwyno Iesu,
Brenin nef, i’r byd.

Bore’r greadigaeth
mewn brwdfrydedd byw
canai sêr y bore,
canai meibion Duw:
bore’r ymgnawdoliad
canai’r nef ynghyd,
tra oedd Duw mewn cariad
yn cofleidio’r byd.

SPINTHER, 1837-1914

(Caneuon Ffydd 460)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015