logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clyw ein cri, o clyw ein cri

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri
Dynion: ‘Iesu, tyrd!’
Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri:
Dynion: ‘Iesu, tyrd!’

Mae llanw cryf o weddi,
Calonnau’th blant yn llosgi.

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri…

Dyhead dwfn sydd ynom
I weld dy deyrnas nefol

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri…

Merched: Oes syched ar rywun?
Wel dewch i yfed dyfroedd bywiol Duw;
Dynion: Oes syched ar rywun?
Wel dewch i yfed dyfroedd bywiol Duw;

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri
Dynion: ‘Iesu, tyrd!’
Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri:
Dynion: ‘Iesu, tyrd!’

Ar strydoedd ein dinasoedd
Mae syched am dy ddyfroedd.

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri…

Bywha hwy a thyrd atynt,
Rho edifeirwch iddynt.

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri…

Merched: Oes syched ar rywun?

O rhwyga len cysgodion
A daenwyd dros blant dynion.

Merched: Clyw ein cri, o clyw ein cri…

Datguddia iachawdwriaeth
A dangos (dy) fuddugoliaeth.

Merched: Oes syched ar rywun?…

(Grym Mawl 2: 45)

Graham Kendrick: Hear our cry, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1996 Make Way Music

PowerPoint