logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clodforwn ac addolwn

Clodforwn ac addolwn,
O! Arglwydd, clyw ein llef.
Rwyt ti goruwch yr holl dduwiau,
Greawdwr dae’r a nef.

Pa fodd y mae mynegi
Teimladau’r galon hon?
Cyn lleied yw ein geirfa
I ddechrau canu’th glod.

‘Does tafod drwy’r greadigaeth
Sy’n haeddu datgan bri,
Ond fe gawn ni glodfori’th enw
I dragwyddoldeb hir.

Nid oedd ond Un yn ddigon da
I dalu pridwerth dyn;
Ni allai neb ddatgloi y drws
I’r nef ond Ef ei hun.

Down, clodforwn ac addolwn…

(Grym Mawl 2: 144)

Andy Piercy: We worship and adore You, Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury
(pennill 3 Cecil F Alexander, Cyfieithiad: Elfed)
Hawlfraint © 1995 I.Q.Music

PowerPoint