logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw

Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw,
doed dynol-ryw i’w ganmol;
ei hedd, fel afon fawr, ddi-drai,
a gaiff ddyfrhau ei bobol.

Ei air a’i amod cadw wna,
byth y parha’i ffyddlondeb
nes dwyn ei braidd o’u poen a’u pla
i hyfryd dragwyddoldeb.

Ef ni newidia, er gweld bai
o fewn i’w rai anwyla’;
byth cofia waed Tywysog nen,
a’i boen ar ben Calfaria.

Pan ballo ffafor pawb a’u hedd,
Duw, o’i drugaredd odiaeth,
yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd
ar gyfyng ddydd marwolaeth.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 170; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 133)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015