logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clod i enw Iesu

Clod i enw Iesu,
plygwn iddo nawr,
“Brenin y gogoniant”
yw ein hanthem fawr;
i’w gyhoeddi’n Arglwydd
codwn lawen lef,
cyn bod byd nac amser
Gair ein Duw oedd ef.

Trwy ei Air y crewyd
daear faith a nef,
mintai yr angylion
a’i holl luoedd ef;
pob rhyw orsedd gadarn,
sêr yr wybren fry,
gosgordd hardd y nefoedd,
gogoneddus lu.

Daeth yn isel atom,
bechaduriaid coll,
rhoesom iddo enw
gwell na’r enwau oll;
cadwodd ef yn burlan,
dygodd ef mewn ffydd,
trechaf enw ydoedd
bore’r trydydd dydd.

Pan esgynnodd Iesu
a dyrchafu dyn,
llewyrch glân yr enw
lanwai’r nef ei hun;
at y Tad dychwelodd
i’w dragwyddol sedd
fry yng ngwlad gogoniant
lle mae perffaith hedd.

Os caiff ddod i’ch calon
trecha ynddi’n glir
bopeth sydd yn aflan
ac sy’n groes i’r gwir;
yn ei rym wynebwch
bob temtasiwn ddaw,
bydd ei adain drosoch,
nertha chwi â’i law.

Daw ein Iesu eto
ar y cwmwl gwyn,
dychwel mewn gogoniant
gyda’i engyl syn;
holl deyrnasoedd daear
yw ei eiddo ef,
“Brenin y gogoniant”
yw ein llawen lef.

CAROLINE M. NOEL, 1817-77 cyf. R. Glyndwr Williams  © Mair A. Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 380)

 

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016