logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Chwi bererinion glân

Chwi bererinion glân,
sy’n mynd tua’r Ganaan wlad,
ni thariaf finnau ddim yn ôl;
dilynaf ôl eich traed
nes mynd i Salem bur
mewn cysur llawn i’m lle:
O ffrind troseddwyr, moes dy law
a thyn fi draw i dre.

Mi ges arwyddion gwir
o gariad pur fy Nuw;
ei ras a’i dawel, hyfryd hedd
i’m henaid, rhyfedd yw;
ymhell o’r babell hon
mae ‘nghalon gydag e’;
O ffrind troseddwyr, moes dy law
a thyn fi draw i dre.

Mae’r manna wedi’i gael
mewn dyrys, anial dir;
ymborthi gaf, ond mynd ymlaen,
ar ffrwythau’r Ganaan bur;
mae yno sypiau grawn
yn llawn o fewn i’r lle;
O ffrind troseddwyr, moes dy law
a thyn fi draw i dre.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 751;Y Llawlyfr Moliant Newydd: 24)

PowerPoint