logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cefais olwg ar ogoniant

Cefais olwg ar ogoniant
fy Ngwaredwr ar y pren,
drwy ffenestri ei ddoluriau
gwelais gariad nefoedd wen:
gorfoledda
f’enaid wrth ei ryfedd groes.

Ymddisgleiriodd ei ogoniant
dros y byd ar Galfarî;
golau cariad Duw sydd eto
yn tywynnu arnom ni:
gorfoledded
cyrrau’r ddaear wrth y groes.

Hyfryd fore fydd pan glywir
côr y nef a’r ddaer yn un,
tyrfa fawr y gwaredigion
a’r angylion yn gytûn
mewn gorfoledd
yn dyrchafu Gŵr y groes.

JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 499)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016