‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
A wyt ti’n un i fentro y cyfan oll i gyd? A fentret ti dy enaid i rywun yn y byd? Fe fentrais i fy enaid i Dduw y byd a’r nef, a mentrais dragwyddoldeb ar ei addewid ef. A fentri di y cyfan oll ar gariad Duw a’i air di-goll? A wyt ti’n un […]
Arglwydd, maddau in mor dlodaidd fu ein diolch am bob rhodd ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal fel dy bobol wrth dy fodd: yn dy fyd rhown ynghyd ddiolch drwy ein gwaith i gyd. Arglwydd, maddau’n difaterwch at ddiodde’r gwledydd draw lle mae’r wybren glir yn felltith a’r dyheu am fendith glaw: lle bo loes […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Da yw Duw, dewch, canwch, codwch lef, da yw Duw, fe ddathlwn ni: da yw Duw, ‘does dim amheuaeth gennym, da yw Duw, hyn wyddom ni. Llenwi â mawl mae fy nghalon i am fod Duw’n fy ngharu, rhaid i mi ddawnsio: ac yn ei galon mae lle i mi, rhedeg wnaf â’m breichiau ar […]
F’enaid mola Dduw! Dyrchafa’i enw Ef. F’enaid mola Dduw! Rhydd fywyd it o’r nef. (Grym Mawl 2: 11) Hawlfraint © Ateliers et Presses de Taize
Iesu, Bugail mawr y defaid, noddfa’r praidd o oes i oes, cofia heddiw dy ddiadell, ffrwyth dy ing ar bren y groes; tro dy ŵyneb, edrych arnom yn yr awr sancteiddiol hon a thosturia wrth dy gennad sydd yn sefyll ger dy fron. Derbyn di ei ymgyflwyniad, gwrando’i addunedau dwys, cymorth ef wrth ymgysegru ar […]
Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon, ‘rwyt ti’n llawer mwy na’r byd; mwy trysorau sy’n dy enw na thrysorau’r India i gyd: oll yn gyfan ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw. Y mae gwedd dy ŵyneb grasol yn rhagori llawer iawn ar bob peth a welodd llygad ar hyd ŵyneb daear lawn: Rhosyn Saron, ti yw tegwch […]
Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw, Nid wyf ond gwyw a gwan; Nid oes ond gallu mawr y nen A ddeil fy mhen i’r lan. Ni fedda’i mewn nac o’r tu maes Ond nerthol ras y Nef Yn erbyn pob tymhestloedd llym, A’r storom gadarn gref. Cysurwch fi, afonydd pur, Rhedegog ddyfroedd byw, Sy’n tarddu o […]
Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]