logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anadla, anadl Iôr

Anadla, anadl Iôr, Llanw fy mywyd i, Fel byddo ‘nghariad i a’m gwaith Yn un a’r eiddot ti. Anadla, anadl Iôr, Rho imi galon bur, A gwna f’ewyllys dan dy law Yn gadarn fel y dur. Anadla, anadl Iôr, Meddianna fi yn lân, Nes gloywi fy naearol fryd A gwawl y dwyfol dân. Anadla, anadl […]


Anfon d’Ysbryd

Anfon d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; ar Gymru ein gwlad, dir mor sych. Bydd drugarog a deffro dy eglwys Di, O Dduw, dechrau efo fi, O Dduw, dechrau efo fi. Tywallt d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; adfywia dy bobl i fyw fel Tydi er mwyn cael cynhaeaf fan hyn yn ein plith, O Dduw, dechrau […]


Arglwydd Iôr dymunwn i ti symud

Arglwydd Iôr dymunwn i ti symud Drwy ein gwlad yn nerth dy Ysbryd   Glân, I ddwyn cymod a maddeuant; Yn dy gariad, trugarha! Clyw ein cri, Clyw ein cri, Clyw ein cri, Tywallt dy Ysbryd ar ein gwlad. Clywn dy Ysbryd graslon yn ymsymud; Fel nerthol wynt fe chwytha dros ein gwlad, I ddwyn […]


Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw

Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Dŷn ni’n diolch i Ti am fynd i Galfari. Dŷn ni’n diolch i Ti am agor y ffordd i ni. Dŷn ni’n diolch i Ti am dy holl roddion Di. Dŷn ni‘n diolch i Ti am ein caru ni. Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad. O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Arglwydd wnei Di anfon mwy o d’Ysbryd Glân. © 2010 Andy Hughes

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Arglwydd teimlaf fi

Arglwydd teimlaf fi dy sancteiddrwydd di, Wrth addoli yma nawr. Estyn llaw wnaf fi I dy gyffwrdd di – Gad i’m brofi’th rym yn awr. Lân Ysbryd Duw tyrd i lawr, Lân Ysbryd Duw cymer fi nawr, A’m llenwi i â’th gariad di, O, lân Ysbryd Duw. (Ailadrodd) (I can almost see)  Peter Jacobs/Hanneke Jacobs, Cyfieithiad […]


Arglwydd, clyw

Arglwydd, clyw, O! maddau i ni. Nid oes parch i ti fel bu, Cyffeswn, cyffeswn. Pura ni, Mae’n c’lonnau mor llygredig. Ble mae’r ffydd fu gennym gynt? Hiraethwn, hiraethwn. Tyrd, Ysbryd Glân, Adnewydda Eglwys Crist. Chwyth Nefol Wynt, Rho ddiwygiad eto’i Gymru – Deffra ni drachefn, Deffra ni drachefn. Steve Fry (O Lord hear, O Lord […]


Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn

Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn o’r Olewydd tua’r nef? Cerbyd Brenin y gogoniant sydd yn ymdaith tua thref; ymddyrchefwch, sanctaidd byrth y ddinas wen. Beth yw’r disgwyl sy ‘Nghaersalem? Beth yw’r nerthol sŵn o’r nef? Atsain croeso’r saith ugeinmil i’w ddyrchafael rhyfedd ef. Diolch iddo, y mae’r Pentecost gerllaw. At y lliaws yng Nghaersalem, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Credwn ni yn Nuw

Credwn ni yn Nuw – Dad nefol, Ef yw Crëwr popeth sydd, Ac yng Nghrist ei Fab – Waredwr, Aned i’n o forwyn bur. Credwn iddo farw’n aberth, Dwyn ein pechod ar y groes. Ond mae’n fyw, fe atgyfododd, Esgynodd i ddeheulaw’r Tad. Iesu, ti yw’r Crist, gwir Fab Duw, Iesu, ti yw’r Crist, gwir […]


Cyffwrdd ynom, Dduw pob llafar

Cyffwrdd ynom, Dduw pob llafar, rho i’n moliant newydd flas; rho’r marworyn ar bob gwefus i gyhoeddi maint dy ras: llifed geiriau cysur drwom i ddiddanu’r unig, trist; gad i ni adleisio’r cariad sydd yn nwfn dosturi Crist. Cyffwrdd ynom, Dduw pob gweithred, ennyn ynom awydd gwiw i liniaru ofnau dwysaf yr anghenus o bob […]


Ddiddanydd anfonedig nef

Ddiddanydd anfonedig nef, fendigaid Ysbryd Glân, hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân. Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn, gwêl a oes ynom bechod cudd ar ffordd dy ddawn. Cyfranna i’n heneidiau trist orfoledd meibion Duw, a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw. Am wanwyn Duw dros anial […]