Dy glwyfau yw fy rhan, Fy nhirion Iesu da; Y rhain yw nerth fy enaid gwan, Y rhain a’m llwyr iachâ: Er saled yw fy nrych, Er tloted wyf yn awr, Fy llenwi gaf â llawnder Duw, A’m gweled fel y wawr. Mi brofais Dduw yn dda, Fy nhirion raslon Dad, Yn maddau im fy meiau […]
Dyma babell y cyfarfod, dyma gymod yn y gwaed, dyma noddfa i lofruddion, dyma i gleifion feddyg rhad; dyma fan yn ymyl Duwdod i bechadur wneud ei nyth, a chyfiawnder pur y nefoedd yn siriol wenu arno byth. Pechadur aflan yw fy enw, o ba rai y penna’n fyw; rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell im […]
Dyma Feibil annwyl Iesu, dyma rodd deheulaw Duw; dengys hwn y ffordd i farw; dengys hwn y ffordd i fyw; dengys hwn y golled erchyll gafwyd draw yn Eden drist, dengys hwn y ffordd i’r bywyd drwy adnabod Iesu Grist. CASGLIAD T. OWEN, 1820 priodolir i RICHARD DAVIES, 1793-1826 (Caneuon Ffydd 198)
Dyma Frawd a anwyd inni erbyn c’ledi a phob clwy’; ffyddlon ydyw, llawn tosturi, haeddai ‘i gael ei foli’n fwy: rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion, Ffordd i Seion union yw: ffynnon loyw, Bywyd meirw, arch i gadw dyn yw Duw. ?ANN GRIFFITHS, 1776-1805 (Caneuon Ffydd 335)
Dyma gyfarfod hyfryd iawn, myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn; myfi yn dlawd, heb feddu dim, ac yntau’n rhoddi popeth im. Ei ganmol bellach wnaf o hyd, heb dewi mwy tra bwy’n y byd; dechreuais gân a bery’n hwy nag y ceir diwedd arni mwy. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91 (Caneuon Ffydd 302)
Dyma pam datguddiwyd y Crist, I ddifetha yn llwyr ymdrech yr Un Drwg. Crist o’n mewn ennillodd y dydd, Felly llawen yw’n cân o groeso i’w Deyrnas Ef. Mae’n goncwerwr dros bechod, (Dynion) Haleliwia, mae’n goncwerwr. (Merched) Dros farwolaeth, buddugol, (Dynion) Haleliwia, buddugol (Merched) Dros afiechyd, fe ennillodd, (Dynion) Haleliwia, fe ennillodd. (Merched) Crist deyrnasa drwy’r […]
Edrycha’r glas ‘na yn yr awyr siapiau hardd cymylau gwyn, Y gwynt yn chwythu ar fy ngwyneb a’i sŵn yn rhuthro ble y mynn. Sut faswn i petawn i yno y dydd croeshoeliwyd Iesu cu, Pan rwygwyd llen y deml’n hanner a threchwyd grym marwolaeth du? Mae’r greadigaeth yn disgwyl, mae’r greadigaeth yn disgwyl, Mae’r […]
Efe yw’r perffaith Iawn. Mae Teyrnas Gras yn llawn O bechaduriaid mawr A gafodd yma i lawr O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr. Fy iachawdwriaeth i Sydd wastad ynot Ti, Mae grym y Groes a’r gwaed A’r llawnder im a gaed, O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau. A […]
Eistedd wyt ar ddeheulaw’r Tad, Cans ti yw yr Archoffeiriad. Eistedd wyt yn y nefoedd fry; Wrth dy draed yn awr Fe ddown i’th foli di. Ramon Pink: We will place you on the highest place, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1982 Sovereign Music UK P O Box 356, Leighton Buzzard LU7 3WP UK […]
Enynnaist ynof dân, perffeithiaf dân y nef, ni all y moroedd mawr ddiffoddi mono ef; dy lais, dy wedd, a gweld dy waed, sy’n troi ‘ngelynion dan fy nhraed. Mae caru ‘Mhrynwr mawr, mae edrych ar ei wedd y pleser mwya’ nawr sy i’w gael tu yma i’r bedd: O gariad rhad, O gariad drud, […]