Pwy welaf fel f’Anwylyd, yn hyfryd ac yn hardd, fel ffrwythlon bren afalau’n rhagori ar brennau’r ardd? Ces eistedd dan ei gysgod ar lawer cawod flin; a’i ffrwyth oedd fil o weithiau i’m genau’n well na gwin. JOHN THOMAS, 1742-1818 (Caneuon Ffydd 334)
Pwy yw hwn sy’n rhodio’r tonnau drwy’r ystorom ar ei hynt? Dyma Lywydd y dyfnderau, dyma Arglwydd mawr y gwynt. Er i oriau’r nos ei gadw ar y mynydd gyda’r Iôr, gŵyr am deulu’r tywydd garw a’i rai annwyl ar y môr. Os yw gwedd ei ymddangosiad yn brawychu’r gwan eu ffydd, mae ei lais […]
Ry’m ni am weld Iesu’n uchel fry Fel baner yn hedfan dros ein tir; Er mwyn i bawb weld y gwir yn glir – Ef yw y ffordd i’r nefoedd. Ry’m ni am weld Iesu’n uchel fry Fel baner yn hedfan dros ein tir; Er mwyn i bawb weld y gwir yn glir – Ef […]
Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]
Rhof fy mywyd ger dy fron Gan geisio y gwir, A thaenellu olew serch Fel fy moliant i ti. Gan aberthu, rhaid im roi Fy nghyfan o’th flaen; Iôr, derbynia aberth mawl Un â’i galon ar dân. Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof I ffrind da heb ei ail, ac i frenin […]
Rhyfeddu ‘rwyf, O Dduw, dy ddyfod yn y cnawd, rhyfeddod heb ddim diwedd yw fod Iesu imi’n Frawd. Dwfn yw dirgelwch cudd yr iachawdwriaeth fawr, a’r cariad na fyn golli’r un o euog blant y llawr. Ni welodd llygad sant, ni ddaeth i galon dyn yr anchwiliadwy olud pell yn arfaeth Duw ei hun. Yn […]
‘Rwy’n chwennych gweld ei degwch ef sy uwch popeth is y rhod, na welodd lluoedd nefoedd bur gyffelyb iddo erioed. Efe yw ffynnon fawr pob dawn, gwraidd holl ogoniant dyn; a rhyw drysorau fel y môr a guddiwyd ynddo’i hun. ‘Rwyf yn hiraethu am gael prawf o’r maith bleserau sy yn cael eu hyfed, heb […]
‘Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’ yn Frawd a Phriod imi mwy; ef yn Arweinydd, ef yn Ben, i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen. Wel dyma un, O dwedwch ble y gwelir arall fel efe a bery’n ffyddlon im o hyd ymhob rhyw drallod yn y byd? Pwy wrendy riddfan f’enaid gwan? Pwy’m cwyd […]
‘Rwy’n dy garu, ti a’i gwyddost, ‘rwy’n dy garu, f’Arglwydd mawr; ‘rwy’n dy garu yn anwylach na’r gwrthrychau ar y llawr: darllen yma ar fy ysbryd waith dy law. Fflam o dân o ganol nefoedd yw, ddisgynnodd yma i’r byd, tân a lysg fy natur gyndyn, tân a leinw f’eang fryd: hwn ni ddiffydd tra […]
‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell amdanat bob yr awr; tyrd, fy Anwylyd, mae’n hwyrhau a’m haul bron mynd i lawr. Tyn fy serchiadau’n gryno iawn oddi wrth wrthrychau gau at yr un gwrthrych ag sydd fyth yn ffyddlon yn parhau. ‘Does gyflwr dan yr awyr las ‘rwyf ynddo’n chwennych byw, ond fy hyfrydwch fyth […]