Pan fwy’n myned drwy Iorddonen, Angau creulon yn ei rym, Aethost drwyddi gynt dy hunan, Pam yr ofnanf bellach ddim? Buddugoliaeth! Gwna i mi weiddi yn y llif. Ymddiriedaf yn dy allu, Mawr yw’r gwaith a wnest erioed; Ti gest angau, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed: Pan Calfaria, Nac aed hwnnw […]
Pan glywir sŵn chwalu cadwynau o draw a hedd yn teyrnasu lle cynt y bu braw, fe wyddom fod yntau ar ymdaith o hyd, yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd. Pan glywir y moliant yn dod dros y don a’r weddi o’r carchar heb ddig dan y fron, fe wyddom fod yntau ar ymdaith […]
Pêr fydd dy gofio, Iesu da, a’r galon drist a lawenha; na’r mêl a’r mwynder o bob rhyw bod gyda thi melysach yw. Ni chenir cân bereiddiach ryw, nid mwynach dim a glywo clyw; melysach bryd ni wybydd dyn nag Iesu, Unmab Duw ei hun. Ti, obaith edifeiriol rai, ti wrth gyfeiliorn drugarhai; a’th geisio, […]
Pob seraff, pob sant, hynafgwyr a phlant, gogoniant a ddodant i Dduw fel tyrfa gytûn yn beraidd bob un am Geidwad o forwyn yn fyw. Efe yw fy hedd, fy aberth a’m gwledd, a’m sail am drugaredd i gyd; fy nghysgod a’m cân mewn dŵr ac mewn tân, gwnaed uffern ei hamcan o hyd. Yn […]
Popeth gwerthfawr fu yn fy mywyd i, Popeth mae y byd yn brwydro i’w gael, Pethau’n elw fu, ‘nawr yn golled sydd; Gwastraff yw i gyd ers ennill Crist. Dy gael di, Iesu, gyda mi Yw’r trysor gorau sydd. Ti yw’m nod, ti yw’m rhan, Fy llawenydd i a’m cân, Ac fe’th garaf mwy. Un […]
Pwy all beidio canu moliant iddo ef? Y mae Brenin Seion wedi dod i’r dref. Moliant, moliant, rhaid i blant roi moliant, moliant, moliant iddo ef, moliant iddo ef, moliant iddo ef. Taenu wnawn ein gwisgoedd gorau ar y ffyrdd, taflwn ar ei lwybrau gangau’r palmwydd gwyrdd. Ar ei ebol asyn O mor fwyn y […]
Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw? Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw? Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw? Sydd i ni ‘Nghrist Iesu ein Iôr. Gorthrymder neu ing neu gas erledigaeth, Newyn neu noethni’r corff, Peryg neu unrhyw gleddyf ddaw i’n herbyn? Gorthrymder… Na, drwy’r cwbl oll Ry’m ni’n […]
Pwy sy’n dod i Salem dref? Iesu’n Llywydd: taenwn ar ei lwybrau ef gangau’r palmwydd; rhoddwn iddo barch a chlod mewn Hosanna; atom ni mae heddiw’n dod Haleliwia! Pwy sy’n dod drwy byrth y bedd yn orchfygwr? Iesu Grist, Tywysog hedd, ein Gwaredwr: mae ei fryd ar wella’r byd o’i ddoluriau; rhoddwn iddo oll ynghyd […]
Pwy sy’n dwyn y Brenin adref? Pwy sy’n caru gweld ei wedd? Pwy sy’n parchu deddfau’r goron ac yn dilyn llwybrau hedd? Hwn fydd mawr dros y llawr, dewch i’w hebrwng ef yn awr. Pwy sy’n taenu cangau’r palmwydd ar y ffordd o dan ei draed? Ble mae mintai y cerddorion i glodfori gwerth ei […]
Pwy sydd yn marw drosof fi Ar fryn y camwedd mawr, A grym maddeuant yn ei air Yn ing yr olaf awr? Cytgan: Yr Iesu yw, Eneiniog Duw, Yr anfonedig glân, Caf ynddo Ef orfoledd byw A rhin y dwyfol dân. Pwy sydd yn eiriol drosof fi, Bechadur gwael ei wedd, Gan ennill imi bardwn […]