Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron diolchwn yn yr oedfa hon am dy addewid rasol di i fod ymhlith y ddau neu dri. O fewn dy byrth mae nefol rin a heddwch i’n heneidiau blin, ac ennaint pêr dy eiriau di yn foddion gras i’r ddau neu dri. O tyred yn dy rym i’n plith […]
Y mae hiraeth arnom, Arglwydd, am dy Ysbryd ar ein hynt, i’n sancteiddio a’n hadfywio megis yn y dyddiau gynt: O disgynned nawr fel gwlith neu dyner law. Gwna ni’n iraidd fel y glaswellt o dan faethlon wlith y nen; gwna ni’n ffrwythlon fel y gwinwydd, prydferth fel y lili wen, er gogoniant byth i’th […]
Ymwêl â ni, O Dduw, yn nerth yr Ysbryd Glân, adfywia’n calon wyw, rho inni newydd gân: O gwared ni o’n llesgedd caeth, a’r farn ddaw arnom a fo gwaeth. Dy Eglwys, cofia hi ar gyfyng awr ei thrai, datguddia iddi’i bri, a maddau iddi’i bai am aros yn ei hunfan cyd, a’i phlant yn […]
Ysbryd y gwirionedd, tyred yn dy nerthol, ddwyfol ddawn; mwyda’r ddaear sych a chaled a bywha yr egin grawn: rho i Seion eto wanwyn siriol iawn. Agor gyndyn ddorau’r galon a chwâl nythle pechod cas; bwrw bob rhyw ysbryd aflan sy’n llochesu ynddi i maes: gwna hi’n gartref i feddyliau prydferth gras. Tywys Seion i’r […]