Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr; tyred yn dy gariad mawr; tyred, una ni bob un yn dy gariad pur dy hun. O llefara air yn awr, gair a dynn y nef i lawr; ninnau gydag engyl nen rown y goron ar dy ben. Yma nid oes gennym ni neb yn arglwydd ond tydi; ac ni […]
Un sylfaen fawr yr Eglwys yr Arglwydd Iesu yw, ei greadigaeth newydd drwy ddŵr a gair ein Duw; ei briodasferch sanctaidd o’r nef i’w cheisio daeth, â’i waed ei hun fe’i prynodd a’i bywyd ennill wnaeth. Fe’i plannwyd drwy’r holl wledydd, ond un, er hyn i gyd, ei sêl, un ffydd, un Arglwydd, un bedydd […]
Yn fyddin o bobl gyffredin, Yn Deyrnas a chariad fel lli. Yn ddinas, goleuni’r cenhedloedd, Plant yr addewid ym ni. Yn bobl a’u bywyd yn lesu, Fe safwn yn deulu ynghyd. Dim ond trwy ras rym yn deilwng, Cyd-etifeddion y tir. Mae bore yn gwawrio, Oes newydd i ddod, Pan fydd plant yr addewid Yn […]