logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

10, 000 achos (Mola’r Iôr)

Mola’r Iôr, f’enaid i, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Gyda’m nerth i gyd, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Fe gwyd yr haul, diwrnod newydd wawria, Mae’n amser canu Dy gân o Dduw. Beth bynnag a ddaw, yr hyn fydd ar fy llwybr, Rho ras i ganu wrth i’r machlud ddod. O! gyfoeth gras, […]


Ag arfau’r goleuni

Ag arfau’r goleuni meddianwn y tir, Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw. ‘Does dim all wrthsefyll, y gelyn a ffy, Mae’r frwydr yn nwylo ein Duw. A chanwn foliant iddo, Nerthol a grymus yw’n Duw. Canwn foliant iddo, Rhown yr anrhydedd i’n Duw. Pan ddaw lluoedd tywyllwch i’n herbyn fel lli, Mae’r frwydr yn nwylo […]


Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf

Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf i fyd sydd well i fyw, gan wenu ar ei stormydd oll: fy Nhad sydd wrth y llyw. Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn, a rhwystrau o bob rhyw y’m dygwyd eisoes ar fy nhaith: fy Nhad sydd wrth y llyw. Er cael fy nhaflu o don i don, nes ofni bron […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

Ar yrfa bywyd yn y byd

Ar yrfa bywyd yn y byd a’i throeon enbyd hi o ddydd i ddydd addawodd ef oleuni’r nef i ni. Fy enaid dring o riw i riw heb ofni braw na haint yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Atat, Arglwydd, trof fy wyneb,

Atat, Arglwydd, trof fy ŵyneb, Ti yw f’unig noddfa lawn, Pan fo cyfyngderau’n gwasgu – Cyfyngderau trymion iawn; Dal fi i fyny ‘ngrym y tonnau, ‘D oes ond dychryn ar bob llaw; Rho dy help, Dywysog bywyd, I gael glanio’r ochor draw. Ti gei ‘mywyd, Ti gei f’amser; Ti gei ‘noniau o bob rhyw; P’odd […]


Bydd ddewr, bydd gryf

Bydd ddewr, bydd gryf, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Bydd ddewr, bydd gryf, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Paid ofni dim a ddaw, Ingoedd, poen na braw; Rhodia mewn ffydd a buddugoliaeth, Rhodia mewn ffydd a buddugoliaeth, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Morris Chapman (Be Bold, Be Strong), cyfieithiad awdurdodedig: Susan Williams ©Word […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 22, 2015

Caraf di

Caraf Di O Arglwydd, fy nghryfder, Caraf Di O Arglwydd, fy nghaer, F’amddiffynfa gadarn, Gwaredwr, O caraf Di, caraf Di. Yr Arglwydd yw fy nghraig, Yr Arglwydd yw fy nghraig, Fy nghadernid a’m tarian, Fy noddfa a’m nerth, Rhag pwy, rhag pwy y dychrynaf? Yr Arglwydd yw fy nghraig, Fy Nuw yw fy nghraig lle […]


Côd y deyrnas

Ein Tad, teyrnasa di Yn ein calonnau ni Tyrd gweithia trwom ni a dangos ystyr byw. Tyrd tania ein calonnau nawr  fflamau gwyllt dy gariad mawr. Ysbryd Glân meddianna ni yn llwyr. D’eglwys ŷm ni Rho nerth i ni yn awr. Dy deyrnas geisiwn ni; Sychedu amdanat ti a gwrthod ffordd y byd cans […]


Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio

Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio D’oriau gwerthfawr yn y byd, Cyn ehedeg draw oddi yma, P’un a gest ti’r trysor drud; Yn mha ardal bydd fy llety? Fath pryd hynny fydd fy ngwedd? P’un ai llawen, ai cystuddiol Fyddi y tu draw i’r bedd? Mae nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd maith o’m blaen, A […]

  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015

Credo’r Bedydd

Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd, Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd; Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw, Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw. Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 13, 2016