Dirion Dad, O gwrando’n gweddi, gweld dy wedd sy’n ymlid braw; dyro obaith trech na thristwch, cynnal ni yn nydd y praw; try ein gwendid yn gadernid yn dy law. Ti all droi’r ystorm yn fendith i’n heneidiau blin a gwyw; gennyt ti mae’r feddyginiaeth, sydd a’i rhin yn gwella’n briw; grym dy gariad inni’n […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Duw yw fy nerth a’m noddfa lawn; Mewn cyfyngderau creulon iawn, Pan alwom arno mae gerllaw; Ped âi’r mynyddoedd mwya’ i’r môr, Pe chwalai’r ddaear fawr a’i ‘stôr, Nid ofnai f’enaid i ddim braw. A phe dôi’r moroedd dros y byd Yn genllif garw coch i gyd, Nes soddi’r bryniau fel o’r blaen; Mae afon […]
Cerddwn Ymlaen Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid a daeth pryder yn ei dro, gwelwyd hefyd haul yn gwenu a llawenydd yn ein bro: ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd i’r yfory sy’n obaith gwiw. Mae’r yfory heb ei brofi, mae ei stôr o hyd dan sêl; […]
Fy ngweddi, dos i’r nef, Yn union at fy Nuw, A dywed wrtho Ef yn daer, “Atolwg, Arglwydd, clyw! Gwna’n ôl d’addewid wych I’m dwyn i’th nefoedd wen; Yn Salem fry partô fy lle Mewn llys o fewn i’r llen.” Pererin llesg a llaith, Dechreuais daith oedd bell, Trwy lu o elynion mawr eu brad […]
Iesu cymer fi’n dy gôl, Rhag diffygio; N’ad fy enaid bach yn ôl, Sydd yn crwydro; Arwain fi drwy’r anial maith Aml ei ddrysle, Fel na flinwyf ar fy nhaith Nes mynd adre’. Rho dy heddwch dan fy mron – Ffynnon loyw; Ffrydiau tawel nefol hon Fyth a’m ceidw; Os caf ddrachtio’r dyfroedd pur, Mi drafaelaf […]
Iesu, mawr yw dy ras a mawr dy gariad ataf fi, Gwn am fy holl feiau’i gyd, ond parod wyt i faddau im. Hon yw fy nghân o fawl i ti; Clod i’r Duw byw a’i holl roddion drud. Ti wnaeth gyffwrdd y galon hon Waredwr ffyddlon. Iesu, dal fi yn dynn a gwared fi […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad lle mae fy heddwch llawn: O am gael teimlo’i gwleddoedd pur o fore hyd brynhawn. ‘Does dim difyrrwch yma i’w gael a leinw f’enaid cu ond mi ymborthaf ar y wledd sy gan angylion fry. ‘Ddiffygia’ i ddim, er cyd fy nhaith tra pery gras y nef, ac er cyn […]
Mae d’eisiau di bob awr, fy Arglwydd Dduw, daw hedd o’th dyner lais o nefol ryw. Mae d’eisiau, O mae d’eisiau, bob awr mae arnaf d’eisiau, bendithia fi, fy Ngheidwad, bendithia nawr. Mae d’eisiau di bob awr, trig gyda mi, cyll temtasiynau’u grym, yn d’ymyl di. Mae d’eisiau di bob awr, rho d’olau […]