logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch

Priodas Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch ar ddechrau’u hoes ynghyd, ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. Bendithia di eu cartref hwy â’th bresenoldeb glân, dy hedd fo’u gwledd i’w cynnal drwy bob dydd, a’i droi yn gân. Rho iddynt nerth bob cam o’r daith ac arwain hwy, O Dduw, i’th […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016

Deisyfwn am dy fendith fawr

Deisyfwn am dy fendith fawr yn awr i’r ddau a unwyd, bydd di, yr Hollalluog Dduw, yn llyw i serch eu bywyd. Ar eu hadduned rho dy sêl ac arddel eu hymrwymiad, ac anfon di y gawod wlith yn fendith ar eu cariad. Arhosed haul dy gariad mwy ar fodrwy eu cyfamod, a thywys hwy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016

O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn

Priodas O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn, ffynhonnell cariad gwir, ar addunedau’r oedfa hon tywynned golau clir. O derbyn di dy weision hyn a serch eu calon hwy, na ddeued oerwynt byth na brad i roddi iddynt glwy’. A fflam dy ddwyfol gariad mawr a welwyd ar y groes, i’w calon roddo sanctaidd wres a […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016

O Arglwydd nef a daear

O Arglwydd nef a daear, ymgeledd teulu’r llawr, tywynned haul dy fendith i’th blant sydd yma nawr; dy sêl rho i’w haddewid a’u haddunedau gwir a gwna holl daith eu bywyd yn ffordd i’r nefol dir. Dan wenau dy ragluniaeth gad iddynt fyw’n gytûn a chaffael diogelwch yn d’ymyl di dy hun; amddiffyn hwy a’u […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Seliwr cyfamodau’r ddaear (Emyn priodas)

Emyn priodas Seliwr cyfamodau’r ddaear Tyred i’r briodas hon, A chysegra serch y ddeuddyn A’u haddewid ger dy fron; Cadw’r heulwen yn eu calon, Cadw aur y fodrwy’n lân, Ym mhob digwydd a phob gofyn Cadw hwy rhan colli’r gân. Nawdd a tharian ein haelwydydd Ydwyt Ti, O Dad o’r nef, Rho i’r ddau a […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016

Ti yr hwn sy’n fôr o gariad

Ti yr hwn sy’n fôr o gariad ac yn galon fwy na’r byd, ar y ddau a blethodd gwlwm boed dy fendith di o hyd: bydd yn gwmni yn eu hymyl, bydd yn gysgod drwy eu hoes, ac ar lwybrau dyrys bywyd nertha’r ddau i barchu’r groes. Yn yr haul ac yn yr awel pan […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016

Tra bo adduned dau

Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016