logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwyf yn credu yn y Tad tragwyddol

‘Rwyf yn credu yn y Tad tragwyddol, Rwyf yn credu’n Iesu ei Fab, Rwyf yn credu hefyd yn yr Ysbryd – Tri yn Un yn ei gariad rhad. Credu rwyf iddo’i eni o forwyn, Ei ladd ar groes a’i gladdu yn y bedd; Fe aeth i lawr i uffern yn fy lle i, Ond fe […]


Seiniwch utgorn, bloeddiwch lef

Seiniwch utgorn, bloeddiwch lef! Rhowch bob croeso iddo Ef. Dewch, ymunwch gyda ni i foli Brenin Nef. Sain telynau, curiad drwm – Paratowch y ffordd i hwn. Fe ddaw yn ôl i’n daear, Bydd pob tafod yn cyffesu: ‘Iesu, Fab Duw, Iesu, Fab Duw.’ Dewch, plygwch i’w awdurdod nawr; Fe goncrodd hwn y gelyn mawr. […]


Trwy ein Duw

Trwy ein Duw glewion fyddwn ni, Trwy ein Duw gelynion sathrwn ni. A buddugoliaeth bloeddiwn, canwn ni: ‘Crist yw’r Iôr!’ (Tro olaf yn unig) Crist yw’r Iôr! Crist yw’r Iôr! Cans concrodd ar y trydydd dydd, A daeth o’i rwymau’n rhydd. Fe goncrodd Duw, ein Brenin mawr! Y byd a wêl yn awr mai Dale […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Ŵr clwyfedig

Ŵr clwyfedig, Oen fy Nuw Gwrthodedig Un; Holl bechod dyn a llid y Tad Ar ysgwydd Iesu gwyn. Heb ‘run gair fe aeth i’r prawf Drwy y gwawd a’r loes Ildio’n llwyr i lwybr Duw Dan goron ddrain a chroes. Croes fy Iesu sy’n iachawdwriaeth Llifodd cariad ataf fi Cân fy enaid nawr, haleliwia Clod […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd, a’i chwŷs fel defnynnau o waed, aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad, a’i arwain i Galfari fryn, a’i hoelio ar groesbren o’i fodd; pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? THOMAS LEWIS, 1760-1842 (Caneuon Ffydd 519)  

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion

Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion dros ddyn pechadurus fel fi, yfodd y cwpan i’r gwaelod ei hunan ar ben Calfarî; ffynhonnell y cariad tragwyddol, hen gartref meddyliau o hedd; dwg finnau i’r unrhyw gyfamod na thorrir gan angau na’r bedd. HUW DERFEL, 1816-90 (Caneuon Ffydd 518)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un

Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un, “Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn; d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen a phalmwydd dan ei draed ar daen. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd, yn wylaidd ar dy farwol rawd: i goncro pechod, codi’r graith, a thynnu colyn angau caeth. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist, yr engyl oll sy’n syllu’n drist o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr: fe […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Yng Nghrist ei Hun

Yng Nghrist ei Hun mae ‘ngobaith i, Ef yw fy haul, fy nerth, fy nghân; Mae’n gonglfaen, mae’n dir mor gryf, Craig yw i mi mewn dŵr a thân. Ei gariad pur, Ei heddwch mawr, ‘Does ofn i mi nac ymdrech nawr! Fy nghysur yw, fy oll yn oll, Yng nghariad Crist mae’n sicrwydd i. […]