logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele, cawsom y Meseia

Wele, cawsom y Meseia, cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed; darfu i Moses a’r proffwydi ddweud amdano cyn ei ddod: Iesu yw, gwir Fab Duw, Ffrind a Phrynwr dynol-ryw. Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria aeth i’r lladdfa yn ein lle, swm ein dyled fawr a dalodd ac fe groesodd filiau’r ne’; trwy ei waed, inni caed bythol […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio, geni Seilo, gorau swydd; wele ddynion mwyn a moddion ddônt â rhoddion iddo’n rhwydd: hen addewid Eden odiaeth heddiw’n berffaith ddaeth i ben; wele drefniad dwyfol gariad o flaen ein llygad heb un llen. Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd, Duw osododd Iesu’n Iawn; Duw er syndod ddarfu ganfod trefn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 20, 2015

Y bore hwn, drwy buraf hedd

Y bore hwn, drwy buraf hedd, gwir sain gorfoledd sydd ymhlith bugeiliaid isel-fri, cyn torri gwawr y dydd. Gwrandawed pob pechadur gwan sy’n plygu dan ei bla, angylion nef, â’u llef yn llon yn dwyn newyddion da. I Fethlem Jwda, dyma’r dydd, daeth newydd da o’r nef, Duw ymddangosodd yn y cnawd, ein Brawd yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015

Yn nhawel wlad Jwdea dlos

Yn nhawel wlad Jwdea dlos yr oedd bugeiliaid glân yn aros yn y maes liw nos i wylio’u defaid mân: proffwydol gerddi Seion gu gydganent ar y llawr i ysgafnhau y gyfnos ddu, gan ddisgwyl toriad gwawr. Ar amnaid o’r uchelder fry dynesai angel gwyn, a safai ‘nghanol golau gylch o flaen eu llygaid syn: […]


Yn y beudy ganwyd Iesu

Yn y beudy ganwyd Iesu heb un gwely ond y gwair; Duw’r digonedd yn ddi-annedd, gwisgo’n gwaeledd wnaeth y Gair: heddiw erfyn in ei ddilyn lle bo’n wrthun dlodi byd; gyfoethogion, awn yn dlodion, dyna’r goron orau i gyd. Gwŷs angylion ddaeth â’r tlodion heb ddim rhoddion ond mawrhad; doethion hefyd ddaeth yn unfryd gyda […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 20, 2015