Dyma’r dydd y ganed Iesu, dyma’r dydd i lawenhau; Arglwydd nef a ddaeth i brynu dynol-ryw, a’u llwyr ryddhau. Gwelwyd Iesu mewn cadachau, iddo preseb oedd yn grud, bu yn wan fel buom ninnau – seiliwr nefoedd faith a’r byd. Daeth o wlad y pur ogoniant, daeth o wychder tŷ ei Dad, prynodd ef i […]
Engyl glân o fro’r gogoniant hedant, canant yn gytûn; clywch eu llawen gân uwch Bethlem, “Heddiw ganwyd Ceidwad dyn”: dewch, addolwn, cydaddolwn faban Mair sy’n wir Fab Duw, dewch, addolwn, cydaddolwn Iesu, Ceidwad dynol-ryw. Mwyn fugeiliaid glywsant ganu a hwy’n gwylio’u praidd liw nos; gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu yng ngoleuni’r seren dlos: dewch, […]
Ganol gaeaf noethlwm cwynai’r rhewynt oer, ffridd a ffrwd mewn cloeon llonydd dan y lloer: eira’n drwm o fryn i dref, eira ar dwyn a dôl, ganol gaeaf noethlwm oes bell yn ôl. Metha nef a daear gynnwys ein Duw; ciliant hwy a darfod pan fydd ef yn llyw: ganol gaeaf noethlwm digon beudy trist […]
Heddiw llawenychwn, na foed neb yn drist; mewn carolau seiniwn foliant Iesu Grist: dyma ddydd ei eni, heddiw daeth i’n byd; teilwng ydyw moli uwch ei isel grud. Heddiw ganed Ceidwad i holl ddynol-ryw, mewn ymddarostyngiad, Crist yr Arglwydd yw; dyna iaith angylion, dyna iaith y nef wrth fugeiliaid tlodion pryd y ganed ef. Canu […]
Henffych iti, faban sanctaidd, plygu’n wylaidd iti wnawn gan gydnabod yn ddifrifol werth dy ddwyfol ras a’th ddawn; O ymuned daearolion i dy ffyddlon barchu byth, gyda lluoedd nef y nefoedd, yn dy lysoedd, Iôn di-lyth. Henffych iti, faban serchog, da, eneiniog, ein Duw ni, rhaid in ganu iti’n uchel ac, ein Duw, dy arddel […]
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes, nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. ‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O […]
Loywaf o’r sêr sydd yn britho’r ffurfafen, gwasgar ein t’wyllwch, a gwawried y dydd: seren y dwyrain, rhagflaenydd yr heulwen, dwg ni i’r fan lle mae’r baban ynghudd. Gwelwch mor isel ei ben yn y preseb, disglair yw oerwlith y nos ar ei grud; moled angylion mewn llety cyn waeled Frenin, Creawdwr a Cheidwad y […]
Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes, un seren sy’n y nef, a ninnau’n croesi maes a bryn i’r fan y gorwedd ef, holl obaith dyn yw ef. Nid oes ogoniant yn y fan, dim ond yr eiddo ef, a’r golau mwyn ar wyneb Mair fel gweddi tua’r nef, o galon mam i’r nef. […]
Mae’r nos yn fwyn ym Methlehem a chlyd yw’r gwely gwair, mae’r llusern fach yn bwrw gwawl dros wyneb baban Mair. O’r dwyrain pell daw doethion dri i geisio Brenin nef gan roi yr aur a’r thus a’r myrr yn offrwm iddo ef. Ar faes y preiddiau dan y sêr yn hedd y dawel nos […]
O dawel ddinas Bethlehem, o dan dy sêr di-ri’, ac awel fwyn Jwdea’n dwyn ei miwsig atat ti: daw heno seren newydd, dlos i wenu uwch dy ben, a chlywir cân angylion glân yn llifo drwy y nen. O dawel ddinas Bethlehem, bugeiliaid heno ddaw dros bant a bryn at breseb syn oddi ar y […]