logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dad yn y nefoedd

Dad yn y nefoedd, Bydded i dy enw di Gael clod drwy’r byd i gyd. Dad yn y nefoedd, Deled nawr dy deyrnas A gwneler dy ewyllys di. Wnei di f’arwain i gyda’th olau Sanctaidd? Rwyf am roi i ti bob awr sydd o’m bywyd, A sychedu wnaf o ddyfnderoedd f’enaid. Fe’th addolaf di o’r […]


Dad yn y nefoedd, o, fe’th garwn

Dad yn y nefoedd, o, fe’th garwn; Cyhoeddwn d’enw drwy’r holl fyd. Boed i’th Deyrnas ddod i’n plith ni wrth i’n foli, A lledaened dy ras a’th gariad drud. Fendigedig Dduw hollalluog! A fu, ag sydd, ac eto’i ddod, Fendigedig Dduw hollalluog! I dragwyddoldeb mwy. Father in Heaven, how we love you: Bob Fitts, cyf.awdurdodedig, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 22, 2015

Dad, fe rof fy hun yn llawen

Dad, fe rof fy hun yn llawen I’th wasanaethu di; dy ras am denodd i. O Dad, yn Iesu rhoist im drysor: Y perl gwerthfawr yw dy Deyrnas di fy Nuw. Addolaf di, addolaf di, Canaf gân yn llawen, Dad, am dy gariad di. Addolaf di, addolaf di, Dy gariad afaelodd ynof fi – Addolaf […]


Dal fi’n dynn

(Dynion a merched yn ateb ei gilydd) Dal fi’n dynn yn dy law, Rho i mi nerth dy Ysbryd. Cyffwrdd fi a’m bywhau, Par i mi D’ogoneddu di. Canwn Haleliwia, Canwn Haleliwia, Canwn Haleliwia, Canwn Haleliwia. Haleliwia, (Haleliwia,) Clod i Dduw, (Clod i Dduw) Haleliwia, (Haleliwia,) Clod i Dduw, (Clod i Dduw.) Hold me Lord, […]


Dal fi’n nes atat ti bob dydd

Dal fi’n nes atat ti bob dydd, N’ad i’m cariad i oeri byth. Cadw ‘meddwl i ar y gwir, Cadw’m llygaid i arnat ti. Trwy bob llwyddiant a llawenhau, Trwy bob methiant a phob tristáu Bydd di’n obaith sydd yn parhau. Eiddot ti fy nghalon i. Mae dy freichiau o’m cwmpas i Yn fy ngwarchod […]


Dan dy fendith wrth ymadael

Dan dy fendith wrth ymadael y dymunem, Arglwydd, fod; llanw’n calon ni â’th gariad a’n geneuau ni â’th glod: dy dangnefedd dyro inni yn barhaus. Am Efengyl gras a’i breintiau rhoddwn ddiolch byth i ti; boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd lwyddo fwyfwy ynom ni; i’r gwirionedd gwna ni’n ffyddlon tra bôm byw. JOHN FAWCETT, […]


Darfu noddfa mewn creadur

Darfu noddfa mewn creadur, Rhaid cael noddfa’n nes i’r nef; Nid oes gadarn le im orffwys Fythol ond ei fynwes Ef; Dyma’r unig Fan caiff f’enaid wir iachâd. Dan dy adain cedwir f’enaid, Dan dy adain byddaf byw, Dan dy adain y gwaredir Fi o’r beiau gwaetha’u rhyw; ‘Rwyt yn gysgod Rhag euogrwydd yn ei […]


Daw ymchwydd mawr o bedwar ban

Daw ymchwydd mawr o bedwar ban, Pellafoedd byd, mewn llawer man; Lleisiau cytûn, calonnau’n un, Yn canu clod i Fab y Dyn. ‘Mae’r pethau cyntaf wedi bod’: Mae heddiw’n ddydd i ganu clod, Rhyw newydd gân am nefol ras Sy’n cyffwrdd pobl o bob tras. Gadewch i holl genhedloedd byd Ateb y gri a chanu […]


Dawnsio’n wyllt! Canu cân!

Dawnsio’n wyllt! Canu cân! Bod yn hurt! neidio lan! Arglwydd, fe’th addolaf Mae fy enaid i ar dân! Gwnaf fy hun Yn ddirmygus ac yn ffôl i’r byd; Fe addolaf fi fy Nuw, A gwnaf fy hun Yn ddirmygus ac yn ffôl i’r byd. Na, na, na, na, na – hei! (x7) Ffwrdd a, ffwrdd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 19, 2015

Derbyn fy niolch gwir

Derbyn fy niolch gwir am fy achub i; Rhof fi fy hun yn llwyr i foli d’enw di. Tywelltaist ti dy waed i’m puro i; Fy mhechod i, a’m gwarth, a roddwyd arnat ti. F’Arglwydd a’m Duw, F’Arglwydd a’m Duw! Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd; Caf weld dy wedd ryw ddydd. Gras a […]