Cyfiawnder Crist a’i waed yn lli Yw unig sail fy ngobaith i. Nid ymddiriedaf yn fy nerth, Ond yn ei enw ef a’i werth. Cytgan Ar Grist, y gadarn Graig, y saf, Ar bob tir arall, suddo wnaf; Ar bob tir arall, suddo wnaf. Pan guddia’r t’wyllwch wyneb Duw, Fe bwysaf ar ei ras sy’n […]
Uwch holl bwerau, brenhinoedd byd, Uwch pob rhyfeddod a phopeth creaist ti. Uwch holl ddoethineb a ffyrdd amrywiol dyn, Roeddet ti yn bod cyn dechrau’r byd. Goruwch pob teyrnas, pob gorsedd byd, Uwchlaw pob gorchest, uchelgais a boddhad, Uwchlaw pob cyfoeth a holl drysorau’r byd, Does dim ffordd o fesur dy holl werth. Wedi’r groes, […]
Wedi dweud Amen A’r gân yn dod i ben, Dof o’th flaen heb ddim, Gan ddymuno rhoi, Rhywbeth gwell na sioe, Rhodd sy’n costio im. Rhof iti fwy na fy nghân, Ni all cân ynddi’ hun Fyth fod yn ddigon i Ti. Gweli yn ddwfwn o’m mewn, Dan y wyneb mae’r gwir, Gweli fy nghalon […]
Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]
Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron diolchwn yn yr oedfa hon am dy addewid rasol di i fod ymhlith y ddau neu dri. O fewn dy byrth mae nefol rin a heddwch i’n heneidiau blin, ac ennaint pêr dy eiriau di yn foddion gras i’r ddau neu dri. O tyred yn dy rym i’n plith […]
Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd, ar d’alwad di ymdaena’r hwyr, ein cynnar gân i ti ddyrchafodd, a’th fawl a rydd in orffwys llwyr. Diolchwn fod dy Eglwys effro i’r ddaear ddu yn llusern dlos; trwy’r cread maith mae hon yn gwylio heb orffwys byth na dydd na nos. Dros bob rhyw ynys a […]
Y mae nerth yn enw Iesu – Credu wnawn ynddo Ef. Ac fe alwn ar enw Iesu: ‘Clyw ein llef Frenin nef! Ti yw’r un wna i’r diafol ffoi, Ti yw’r un sy’n ein rhyddhau.’ Does un enw arall sydd i’w gymharu  Iesu. Y mae nerth yn enw Iesu – Cleddyf yw yn fy […]
Ymgrymwn oll ynghyd i lawr gerbron gorseddfainc gras yn awr; â pharchus ofn addolwn Dduw; mae’n weddus iawn – awr weddi yw. Awr weddi yw, awr addas iawn i draethu cwynion calon lawn; gweddïau’r gwael efe a glyw yn awr yn wir – awr weddi yw. Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr yn ysbryd gras […]
Yn wirion, yn wallgof, yn ddwfwn x3 Dwi’n mynd i’th drystio Di Yn wirion, yn wallgof, yn ddwfwn x3 Dwi’n mynd i’th foli Di. Tân fel fflam o ganol nefoedd Tyrd i losgi ynof fi, Pura’r natur ddynol ynof Cynna’n wenfflam ynof fi. Tân na allaf fi reoli, Tân lle dwi yn gadael fynd Tyrd […]
Ynddo rwy’n byw Yn symud ac yn bod, Ynddo rwy’n byw Yn symud ac yn bod. Canwch gân i’n Duw, Cân llawenydd yw; Deuwch ger ei fron, Gorfoleddwch! Canwch gân i’n Duw, Cân llawenydd yw; Deuwch ger ei fron, Haleliwia! In him we live and move, Randy Speir. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1981 Sovereign Music […]