Rhoddaf i ti fawl, Canaf i ti gân, A bendithiaf d’enw di. Can’s nid oes Duw fel tydi, All ein hachub ni, Ti yw’r unig ffordd. Dim ond ti all roi bywyd i ni, Dim ond ti all ein goleuo ni, Dim ond ti all roi heddwch in, Dim ond ti a erys gyda ni. […]
Rhoddwn ddiolch i ti, O Dduw, ymysg y bobloedd, Canu wnawn glodydd i ti Ymysg cenhedloedd. Dy drugaredd di sydd fawr, Sydd fawr hyd y nefoedd, A’th ffyddlondeb di, A’th ffyddlondeb di hyd y nen. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y nefoedd, A’th ogoniant a welir dros y byd. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y […]
Rhoddwn glod i’th enw tirion, Arglwydd mawr nef a llawr, derbyn fawl dy weision. Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth llawenhawn, ynddi cawn hyfryd etifeddiaeth. Yn dy air yn iaith ein tadau rhoist i ni uchel fri, trysor uwch trysorau. Mae dy air yn llusern olau ar ein taith yn dy waith: dengys y ffordd […]
Rhof fy mywyd ger dy fron Gan geisio y gwir, A thaenellu olew serch Fel fy moliant i ti. Gan aberthu, rhaid im roi Fy nghyfan o’th flaen; Iôr, derbynia aberth mawl Un â’i galon ar dân. Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof I ffrind da heb ei ail, ac i frenin […]
Rhowch i’r Arglwydd yn dragywydd Foliant, bawb sydd is y nen; Wele’r Iesu’n dioddef, trengi’n Aberth perffaith ar y pren; Concwest gafwyd, bywyd roddwyd, Mewn gogoniant cwyd ein Pen. Dynion fethant, Crist yw’n haeddiant, Ef yw’n glân gyfiawnder pur; Crist yr Arglwydd yn dragywydd Sy’n dwyn rhyddid o’n holl gur; Rhydd in’ bardwn; etifeddwn Fywyd, […]
Rhyddid sydd i gaethion byd; A gwir oleuni; Gogoniant yn lle lludw, A mantell hardd o fawl. Hyder yn lle’r c’wilydd sydd; Cysur yn lle galar. Eneiniaf chi ag olew, Symudaf eich holl boen. Ac fe roddaf wir foliant; Mawl yn lle tristwch ac ofn; A mantell gan Dduw yn lle galar a th’wyllwch du. […]
Rwy’n greadigaeth newydd, Rwy’n blentyn Duw oherwydd Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Mae ‘nghalon i’n gorlifo o gariad tuag ato, Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Mae ‘nghalon i’n gorlifo o gariad tuag ato, Fe’m cyfiawnhawyd trwy ei ras. Ac felly moli wnawn, le, felly llawenhawn, Ac felly canwn am ei gariad Ef. Llawenydd sy’n ddiderfyn, […]
Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i glywed y gân yn Saesneg. Rwy’n dod yn nes nag y bûm i erioed, Er gwaethaf fy methiant, mae croeso i mi; Edrychaf i’th lygaid ac mae dy gariad mor glir. Yn nes ac yn nes yr wyt ti’n fy ngwadd, A’th gariad o’m hamgylch, mae ’nghalon […]
Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu, x3 Rwy’n dy garu, Amen. Rwy’n dy garu, Amen. Aleliwia, aleliwia, x3 Aleliwia, Amen. Aleliwia, Amen. ©2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]