O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]
O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, galw ‘rwyf, ateb fi: O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, tyred, erglyw fy llef. CYMUNED TAIZÉ (O Lord hear my prayer), cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 799)
O! dysg im, dirion Dad, Fy ngweddi fach a’m cân; Gwna fi yn well o ddydd i ddydd Dan rin dy fendith lân. Dy blentyn carwn fod, O! gwrando ar fy nghri; Dan wên yr haul, yn niwl y nos, Bydd di yn Dad i mi. O! rho yn awr i mi Dy fendith lawn […]
O’r fath gyfaill ydyw’r Iesu, ffrind ymhob ystorom gref; O’r fath fraint yw mynd â’r cyfan yn ein gweddi ato ef. O’r tangnefedd pur a gollwn, O’r pryderon ‘rŷm yn dwyn, am na cheisiwn fynd yn gyson ato ef i ddweud ein cwyn. A oes gennym demtasiynau? A oes gofid mewn un man? Peidiwn byth […]
Rho im enau rhydd I’m ganu mawl i’th enw; Rho im galon bur I mi d’addoli di. Rho im ysbryd parod I fod yn gyfrwng bendith, A chaiff eraill brofi’th gariad yn awr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Lord, release my mouth, Ian Townsend © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs […]
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]
Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi, atat ti y daw pob cnawd; llef yr isel ni ddirmygi, clywi ocheneidiau’r tlawd: dy drugaredd sy’n cofleidio’r ddaear faith. Minnau blygaf yn grynedig wrth dy orsedd rasol di, gyda hyder gostyngedig yn haeddiannau Calfarî: dyma sylfaen holl obeithion euog fyd. Hysbys wyt o’m holl anghenion cyn eu traethu […]
[Salmau 56-57, Alaw: Os daw ‘nghariad] Gweddïaf am drugaredd, am drugaredd, Ac erfyn ar fy Nuw. Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen, Ni fedraf yn fy myw. Mae pryderon yn gwasgu arnaf, Yn pwyso’n drwm drwy’r dydd, A llawer gofid meddwl, gofid meddwl Yn torri ‘nghalon i. O fy Arglwydd, cod fi fyny, […]
Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Rwyf am i ti ’meddiannu i. Ysbryd Glân fy Nuw, Disgyn arnaf fi. Paul Armstrong: Spirit of the Living God, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1984 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK Grym mawl 1: 149