Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fy ffrind a’m Iôr Melysach serch na mêl, Fe’m cwrdd lle’r wyf yn awr. Beth alla’i wneud? Ymgrymaf ger dy fron, Dy wedd sy’n drech na mi. Fe alwaf Iôr ar d’enw di, Dy haeddiant yw y clod i gyd. A byddaf byw yn llwyr i ti – Dy haeddiant yw y clod i gyd. […]
Fy ngweddi, dos i’r nef, Yn union at fy Nuw, A dywed wrtho Ef yn daer, “Atolwg, Arglwydd, clyw! Gwna’n ôl d’addewid wych I’m dwyn i’th nefoedd wen; Yn Salem fry partô fy lle Mewn llys o fewn i’r llen.” Pererin llesg a llaith, Dechreuais daith oedd bell, Trwy lu o elynion mawr eu brad […]
Gadarn Dduw, Frenin nef, ein Gwaredwr ni; Clywaist ti, ac atebaist ein gweddi; Felly derbyn di ein diolch a’n hymrwymiad, Ti yw’r Arglwydd byw, Ti yw’n Duw, Ti yw’r Arglwydd byw, Ti yw’n Duw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Mighty God: Maggi Dawn © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs […]
Mae’r Arglwydd ein Duw wedi siarad, wedi galw ei bobl i ddod ynghyd, Wrth i’r nef gyhoeddi ei gyfiawnder mae ein Duw yn dod, yn ei holl ysblander. Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw. Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti, ond galwaf i arnat Ti i fy […]
Gan gredu dy addewid ein Duw, Gweddïwn ni a phlygwn i ti, ‘Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad.’ Wrth edrych ar d’addewid yn awr Gadawn holl ffyrdd drygionus y llawr; Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad yn awr. Anfon ddiwygiad, cyffwrdd fi. Mor aflan yw ’ngwefusau hy’; Ond […]
Glanha dy Eglwys, Iesu mawr ei grym yw bod yn lân; sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith a phura hi’n y tân. Na chaffed bwyso ar y byd nac unrhyw fraich o gnawd: doed yn gyfoethog, doed yn gryf drwy helpu’r gwan a’r tlawd. Na thynned gwychder gwag y llawr ei serch oddi ar y gwir; […]
Gwêl ni’r awron yn ymadael, Bydd wrth raid Inni’n blaid, Arglwydd, paid â’n gadael. N’ad in nabod dim, na’i garu, Tra fôm byw, Ond y gwiw Groeshoeliedig Iesu. Os gelynion ddaw i’n denu, Yna’n ddwys Bwrw’n pwys Wnelom ar yr Iesu. Hyfryd fore heb gaethiwed Wawria draw, Maes o law Iesu ddaw i’n gwared. Gwyn […]
Gyfrannwr pob bendithion ac awdur deall dyn, gwna ni yn wir ddisgyblion i’th annwyl Fab dy hun; drwy bob gwybodaeth newydd gwna ni’n fwy doeth i fyw, a gwisg ni oll ag awydd gwas’naethu dynol-ryw Rho inni ysbryd gweddi rho inni wefus bur, rho gymorth mewn caledi i lynu wrth y gwir; yng nghynnydd pob […]
Heddiw, a yw’n wir Y gall gweddi’r gwan Roi i’r ddaear law, Chwalu gwledydd mawr? Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu; Rwy’n byw er dy fwyn. Ydy’, mae yn wir. Fe all gweddi wan Godi’r meirw cudd, Rhoddi’r dall yn rhydd. Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu, Rwy’n byw er dy fwyn. Byddaf yn un, […]