logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O gyfiawnder pur tragwyddol

O! Gyfiawnder pur tragwyddol, O! Gyfiawnder maith di-drai – Rhaid i’m henaid noeth newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau: Rho dy wisg ddisgleirwen olau, Cudd fy noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr. William Williams (1717-1791) (Llawlyfr Moliant Newydd: 574)


O Iesu, y ffordd ddigyfnewid

O Iesu, y ffordd ddigyfnewid a gobaith pererin di-hedd, O tyn ni yn gadarn hyd atat i ymyl diogelwch dy wedd; dilea ein serch at y llwybrau a’n gwnaeth yn siomedig a blin, ac arwain ein henaid i’th geisio, y ffordd anghymharol ei rhin. O lesu’r gwirionedd anfeidrol, tydi sydd yn haeddu mawrhad, O gwared […]


O tyred, raslon angel Duw

O tyred, raslon angel Duw, cynhyrfa’r dyfroedd hyn lle’r erys gwywedigion bro amdanat wrth y llyn: ni feddwn neb i’n bwrw i’r dŵr i’n golchi a’n hiacháu; tydi yn unig fedd y grym, O tyred, mae’n hwyrhau. Yn nhŷ trugaredd aros wnawn a hiraeth dan bob bron am nad oes cyffro yn y llyn nac […]


Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau

Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau, pan fo’r cysgodion draw’n dyfnhau, tydi, yr unig un a ŵyr, rho olau’r haul ym mrig yr hwyr. Er gwaeled fu a wnaethom ni ar hyd ein hoes a’i helynt hi, er crwydro ffôl ar lwybrau gŵyr, rho di drugaredd gyda’r hwyr. Na chofia’n mawr wendidau mwy, a maint eu […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

T’wynned heulwen ar fy enaid

T’wynned heulwen ar fy enaid, Blinais ganwaith ar y nos; Nid yw ‘mhleser, na’m teganau, Na’m heilunod, ond fy nghroes; Mynwes Iesu yw f’hapusrwydd; O! na chawn i yno fod: Fe rôi cariad dwyfol perffaith Fy mhleserau dan fy nhroed. Eto unwaith mi ddyrchafaf Un ochenaid tua’r nef, Ac a ŵylaf ddagrau’n hidil Am ei […]


Y mae arnaf fil o ofnau

Y mae arnaf fil o ofnau, Ofnau mawrion o bob gradd, Oll yn gwasgu gyda’i gilydd Ar fy ysbryd, bron fy lladd; Nid oes allu a goncweria Dorf o elynion sydd yn un – Concro ofn, y gelyn mwyaf, Ond dy allu Di dy Hun. Ofni’r wyf na ches faddeuant, Ac na chaf faddeuant mwy; […]