logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tydi sy deilwng oll o’m cân

Tydi sy deilwng oll o’m cân, fy Nghrëwr mawr a’m Duw; dy ddoniau di o’m hamgylch maent bob awr yr wyf yn byw. Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr yn datgan dwyfol glod; tywynnu’n ddisglair yr wyt ti drwy bopeth sydd yn bod. O na foed tafod dan y rhod yn ddistaw am dy […]


Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni

Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni, tro di ein nos yn ddydd; pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi dan lewyrch gras a ffydd. Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch, rho inni’r doniau glân; tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch lle mae’r dragwyddol gân. Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion, […]


Wrth orsedd y Jehofa mawr

Wrth orsedd y Jehofa mawr plyged trigolion byd i lawr; gwybydded pawb mai ef sy Dduw, yr hwn sy’n lladd a gwneud yn fyw. Â’i ddwyfol nerth, fe’n gwnaeth ei hun o bridd y ddaear ar ei lun; er in, fel defaid, grwydro’n ffôl, i’w gorlan ef a’n dug yn ôl. I’th byrth â diolch-gân […]


Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf?

Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy a wnaeth y tywydd braf? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y glaw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Pwy wnaeth fôr sy’n ‘mestyn draw? Neb ond Duw, neb ond Duw. Wyddoch chwi pwy wnaeth y byd? Neb […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016

Yn dy law y mae f’amserau

Yn dy law y mae f’amserau, ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd, ti yw lluniwr y cyfnodau, oesoedd a blynyddoedd byd; rho dy fendith ar y flwyddyn newydd hon. Yn dy law y mae f’amserau, oriau’r bore a’r prynhawn, ti sy’n rhoddi y tymhorau, amser hau a chasglu’r grawn; gad im dreulio oriau’r flwyddyn yn […]


Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod

Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod, ei enw fawrygwn tra byddwn yn bod: cyhoeddwn ei haeddiant a’i foliant di-fai; ei ras a’i ogoniant sy’n foroedd di-drai. Yr Arglwydd ddyrchafwn, efe yw ein rhan, ac ynddo gobeithiwn, mae’n gymorth i’r gwan: trwy’r ddaear a’r nefoedd ar gynnydd mae’r gân; ei ras drwy yr oesoedd wna luoedd […]