logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymddiried wnaf yn Nuw

Ymddiried wnaf yn Nuw er dued ydyw’r nos; daw ei addewid ef fel golau seren dlos: mae nos a Duw yn llawer gwell na golau ddydd a Duw ymhell. Ymddiried wnaf yn Nuw er trymed ydyw’r groes; er cael fy llethu bron gan ing a chwerw loes: caf nerth gan Dduw o ddydd i ddydd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • October 15, 2019

Ynddo rwy’n byw

Ynddo rwy’n byw Yn symud ac yn bod, Ynddo rwy’n byw Yn symud ac yn bod. Canwch gân i’n Duw, Cân llawenydd yw; Deuwch ger ei fron, Gorfoleddwch! Canwch gân i’n Duw, Cân llawenydd yw; Deuwch ger ei fron, Haleliwia! In him we live and move, Randy Speir. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1981 Sovereign Music […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 20, 2015

Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn

Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn, yn dy gariad llawenhawn, cariad erys fyth heb ballu a’i ffynhonnau fyth yn llawn: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy enw mawr. Er i ti reoli bydoedd, ymhob storom lem a ddaw cedwi’r weddw dan dy gysgod a’r amddifad yn dy law: Frenin nef a daear lawr, molwn byth dy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Yr Arglwydd a feddwl amdanaf

Yr Arglwydd a feddwl amdanaf, a dyna fy nefoedd am byth; yng nghysgod yr orsedd gadarnaf mae’n ddigon i’r gwannaf gael nyth; cyn duo o’r cwmwl tymhestlog ei adain sy’n cuddio fy mhen; caf noddfa’n ei fynwes drugarog pan siglo colofnau y nen. Fy Arglwydd sy’n gwisgo y lili, mae’n cofio aderyn y to; cyn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

Yr Arglwydd yw fy Mugail da

(Salm 23) Yr Arglwydd yw fy Mugail da, diwalla f’eisiau i; rhydd orffwys im mewn porfa fras, caf rodio’n hedd y lli. Efe a ddychwel f’enaid blin, fe’m harwain i bob awr ‘r hyd llwybrau ei gyfiawnder pur, er mwyn ei enw mawr. Pe rhodiwn drwy y dyffryn du nid ofnwn ddim o’i fraw; fy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 25, 2016