logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni fethodd gweddi daer erioed

Ni fethodd gweddi daer erioed â chyrraedd hyd y nef, ac mewn cyfyngder, f’enaid, rhed yn union ato ef. Ac nid oes cyfaill mewn un man, cyffelyb iddo’n bod, pe baem yn chwilio’r ddaear faith a holl derfynau’r rhod. Ymhob rhyw ddoniau mae e’n fawr, anfeidrol yw ei rym, ac nid oes pwysau ar ei […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015

Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn

Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn, A leinw f’enaid bach yn llawn, Ni allwn ddal dim mwy pe cawn, Mae Ef yn ddigon mawr: A digon, digon, digon yw Dy hyfryd bresenoldeb gwiw, Yn angau ceidw hyn fi’n fyw, A bodlon wyf yn awr. A phe diffoddai’r heulwen fawr, Pe syrthiai sêr y nen […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015

O adfer, Dduw

O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]


O am dreiddio i’r adnabyddiaeth

O am dreiddio i’r adnabyddiaeth o’r unig wir a bywiol Dduw i’r fath raddau a fo’n lladdfa i ddychmygion o bob rhyw; credu’r gair sy’n dweud amdano a’i natur ynddo amlwg yw, yn farwolaeth i bechadur heb gael Iawn o drefniad Duw. Yn yr adnabyddiaeth yma mae uchel drem yn dod i lawr, dyn yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

O Arglwydd, teilwng ydwyt

O Arglwydd, teilwng ydwyt O’r moliant nos a dydd, Ti yw brenin y Gogoniant, A Chreawdwr popeth sydd. Fe’th addolaf di, fy mywyd rof i ti, Ymgrymaf ger dy fron. Ie, addolaf di, fy mywyd rof i ti, Ymgrymaf ger dy fron. Wrth i’th Ysbryd symud arnaf Mae’n gwella pob un briw, A dyrchafaf ddwylo’i […]


O Dad fe’th garwn

O Dad fe’th garwn, Addolwn, gogoneddwn, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd. Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di, Molwn d’enw Di drwy’r byd i gyd.   lesu, fe’th garwn … (ayb.)   Ysbryd, fe’th garwn…(ayb.) Donna Adkins, (Father we love you), cyf. Catrin Alun Hawlfraint © Maranatha! Music/ Word Music (UK) 1976, 1981 Gwein. […]


O Dad nefol, y tragwyddol

O Dad nefol, y tragwyddol, Brenin nef a daear lawr, Fe addolwn, fe ddyrchafwn Enw ein Duw, Oen eto’n fyw, Down ger dy fron, ein gweddi clyw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,. Lord and Father, King forever, Noel Richards © 1982 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]


O Dad, dy dynerwch di

O Dad, dy dynerwch di Sydd yn toddi’m chwerwder i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, dy harddwch di Sy’n dileu fy hagrwch i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, O Lord, your tenderness: Graham Kendrick © […]


O Dad, trugaredd rho im

O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

O Dduw ein Iôr

O Dduw ein Iôr, bendigedig ydwyt ti, Y ddae’r sy’n llawn o’th ogoniant. O Dduw ein Iôr, mor drugarog ydwyt ti; Mor hardd, mor wych, ac mor ddyrchafedig. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. O Dduw ein Tad, mor haelionus ydwyt […]