Ni yw y bobl elwir wrth d’enw di. Fe lefwn arnat nawr, Arglwydd clyw ein cri; Yn ein gwlad sydd mor dywyll, llewyrcha trwom ni. Wrth i’n geisio d’wyneb di, O! clyw ein cri; Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Boed i’th deyrnas ddod. Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Gwneler dy ewyllys di. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
O godiad haul Hyd ei fachlyd bob hwyrddydd, lesu ein Harglwydd Fydd fawr drwy’r holl fyd; Teyrnasoedd hollfyd Fydd dan ei reolaeth Trwy’r greadigaeth Fe genir ei glod. Boed i bob llais, a phob calon a thafod, Ei foli yn awr. ‘N un yn ei gariad, amgylchwn y byd, Dewch i ganu ei fawl. O […]
O! Iachawdwr pechaduriaid, Sydd â’r gallu yn dy law; Rho oleuni, hwylia f’enaid, Dros y cefnfor garw draw; Gad i’r wawr fod rhag fy wyneb, Rho fy enaid llesg yn rhydd, Nes i’r heulwen ddisglair godi, Tywys fi wrth y seren ddydd. O! ynfydrwydd, O! ffolineb, Im erioed oedd rhoi fy mryd, Ar un tegan, […]
O Iesu, mi addewais dy ddilyn drwy fy oes; bydd di yn fythol-agos, Waredwr mawr y groes: nid ofnaf sŵn y frwydyr os byddi di gerllaw; os byddi di’n arweinydd ni chrwydraf yma a thraw. Rho brofi dy gymdeithas; mor agos ydyw’r byd a’i demtasiynau cyfrwys yn ceisio denu ‘mryd; gelynion sydd yn agos o’m […]
O na allwn garu’r Iesu yn fwy ffyddlon, a’i was’naethu; dweud yn dda mewn gair amdano, rhoi fy hun yn gwbwl iddo. RICHARD THOMAS, bl. 1821 (Caneuon Ffydd 355)
O’r fath gyfaill yw, Fe deimlais ei gyffyrddiad; Glyna’n well na brawd; Agosach yw na chariad. Iesu, Iesu, Iesu, Gyfaill ffyddlon. O’r fath obaith rydd – Does dim oll all gymharu: Gofal tad na mam, Fy Arglwydd – mae’n fy ngharu. (Grym Mawl 2: 149) Martin Smith: What a friend I’ve found, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]
O’r nef y daeth, Fab di-nam, i’r byd yn dlawd heb feddu dim, i weini’n fwyn ar y gwan, ei fywyd roes i ni gael byw. Hwn yw ein Duw, y Brenin tlawd, fe’n geilw oll i’w ddilyn ef, i fyw bob dydd fel pe’n anrheg wiw o’i law: fe roddwn fawl i’r Brenin tlawd. […]
Os Iesu Grist yn dlawd a ddaeth heb le i roi’i ben i lawr, ai gormod yw i’r fynwes hon roi cartref iddo nawr? Os gwawdiwyd enw Iesu gynt gan ei elynion cas, ai gormod i’w gyfeillion hoff yw canmol gwaith ei ras? Os dygodd Iesu addfwyn faich euogrwydd mawr ein bai, ai gormod yw […]
Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu, A phan syllaf ar dy harddwch di. Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras, A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti, Pan mae popeth o’m cylch Megis cysgod yn d’oleuni pur. Addolaf di, Addolaf di, Fy mywyd i yw cael d’addoli […]