Iesu, ‘Mrenin mawr a’m Priod, Bydd wrth raid Imi’n blaid I orchfygu pechod. Tra fwy’n trigo’n yr anialwch, Gweld yn wir D’wyneb pur Yw fy ngwir ddiddanwch. Iesu, aethost Ti â’m calon; F’enaid cu’n Llechu sy’n Ddifrad rhwng dy ddwyfron. Pâr im aros mwy’n dy freichiau: Boed fy nyth Dedwydd byth Yn dy ddilyth glwyfau. […]
Iesu, clywaf sŵn dy eiriau draw o fin y lli; cerddant ataf o’r pellterau, “Canlyn fi.” Uwch y dwndwr, mae acenion gwynfyd yn dy lef; llifa’u swyn i giliau’r galon, Fab y nef. Minnau iti, Aer y nefoedd, roddaf ddyddiau f’oes; rhodiaf, gyda saint yr oesoedd, ffordd y groes. Ar dy ôl y tyn myrddiynau […]
’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]
Mi glywaf lais sy’n galw f’enaid aflan, Gras a gwirionedd sy’n ei eiriau byw, Mae’n fy ngwahodd i’w ddilyn Ef i’w gorlan, Rwy’n ei adnabod, llais fy Mugail yw. Cytgan: Fy Mugail i, fy Mugail i, fy Mugail i, Rwy’n ei adnabod, llais – llais fy Mugail i. Pan fyddo’r nos yn ddu, a’r byd […]
Mae enw Iesu Grist i mi Mor fwyn a llais o’r nef, Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam – Ei hyfryd enw Ef. O! Enw’r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a’m Duw; Enw sy’n gwneud i’m lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i’m rhyddhau, […]
Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]
Cytgan: Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Mynyddoedd a bryniau yn Bloeddio canu o’m blaen. Mewn llawenydd yr âf allan, Ac mewn heddwch caf fy arwain, Holl goedwig y meysydd Yn curo dwylo o’m blaen. Pen 1: Fel hyn mae y gair a ddaw o’th enau, Nid yw’n dychwel atat […]
Mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, mi benderfynais i ddilyn Iesu, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. Y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, y byd o’m cefn a’r groes i’m harwain, heb droi yn ôl, heb droi yn ôl. […]
Mor hawddgar yw dy bebyll di, Arglwydd y Lluoedd. F’enaid a hiraetha amdanat ti; Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ. Molaf dy enw Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw. Gwell gen i ddiwrnod gyda thi, Gwell gen i gadw drws dy dŷ, Gwell gen i ddiwrnod gyda thi Na mil unman arall. Un […]
N’ad im fodloni ar ryw rith o grefydd, heb ei grym, ond gwir adnabod Iesu Grist yn fywyd annwyl im. Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan i ganlyn ar dy ôl; na chaffwyf drigfa mewn unman ond yn dy gynnes gôl. Goleuni’r nef fo’n gymorth im, i’m tywys yn y blaen; rhag imi droi oddi […]