logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, mae yn nosi

Arglwydd, mae yn nosi, gwrando ar ein cri; O bererin nefol, aros gyda ni. Llosgi mae’n calonnau gan dy eiriau di; mwy wyt ti na’th eiriau, aros gyda ni. Hawdd, wrth dorri’r bara, yw d’adnabod di; ti dy hun yw’r manna, aros gyda ni. Pan fo’n diwrnod gweithio wedi dod i ben, dwg ni i […]


Athro da, ar ddechrau’r dydd

Athro da, ar ddechrau’r dydd dysg ni oll yng ngwersi’r ffydd, boed ein meddwl iti’n rhodd a’n hewyllys wrth dy fodd. Athro da, disgybla ni yn dy gariad dwyfol di fel y gallwn ninnau fod yn ein bywyd iti’n glod. Athro da, O arwain ni yn ddiogel gyda thi; wrth dy ddilyn, gam a cham, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Daeth eto fore Saboth

Daeth eto fore Saboth, boed arnom yn dy dŷ brydferthwch dy sancteiddrwydd a’r llewyrch oddi fry; dy air y bore cyntaf aeth drwy y gwagle’n wawr: tywynna arnom ninnau, O Arglwydd, yma nawr. Daeth eto fore Saboth, O Iesu, rho i ni gael blas ar wrando’r ddameg, fel gynt ar lân y lli; awelon Galilea […]


Hwn yw y sanctaidd ddydd

Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o’i waith; a ninnau nawr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith. Hwn yw’r moliannus ddydd, cydganodd sêr y wawr; mae heddiw lawnach testun cân, molianned pawb yn awr. Hwn yw y dedwydd ddydd, daeth Crist o’i fedd yn fyw; O codwn oll i fywyd gwell, i ryddid […]


Nefol Dad, mae eto’n nosi

Nefol Dad, mae eto’n nosi, gwrando lef ein hwyrol weddi, nid yw’r nos yn nos i ti; rhag ein blino gan ein hofnau, rhag pob niwed i’n heneidiau, yn dy hedd, O cadw ni. Cyn i’r caddug gau amdanom taena d’adain dyner drosom, gyda thi tawelwch sydd; yn dy gariad mae ymgeledd, yn dy fynwes […]


Yma’n hedd y mynydd sanctaidd

Yma’n hedd y mynydd sanctaidd, Iesu annwyl, wele ni, gad i’th weision weld o’r newydd fawredd dy ogoniant di. Cuddier ni dan ddwyfol adain yn dy gwmni, Iesu mawr, torred arnom drwy’r cymylau glaer oleuni’r nefol wawr. Tyner eiriau’r Tad fo’n disgyn o’r uchelder ar ein clyw yn cyhoeddi bod i’r euog hedd tragwyddol ym […]


Ymgrymwn ger dy fron

Ymgrymwn ger dy fron ti Dduw ein tadau; O llanw’r oedfa hon â’th ddylanwadau: o blith teganau ffôl i wres dy gynnes gôl O galw ni yn ôl o’n holl grwydriadau. Allorau fwy na mwy gaed ar ein llwybrau, a rhoesom arnynt hwy ein hebyrth gorau: ond trodd addoli’r byd yn golled drom i gyd; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015