logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anfon d’Ysbryd

Anfon d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; ar Gymru ein gwlad, dir mor sych. Bydd drugarog a deffro dy eglwys Di, O Dduw, dechrau efo fi, O Dduw, dechrau efo fi. Tywallt d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; adfywia dy bobl i fyw fel Tydi er mwyn cael cynhaeaf fan hyn yn ein plith, O Dduw, dechrau […]


Arglwydd Iesu, dysg im gerdded

Arglwydd Iesu, dysg im gerdded drwy y byd yn ôl dy droed; ‘chollodd neb y ffordd i’r nefoedd wrth dy ganlyn di erioed: mae yn olau ond cael gweld dy ŵyneb di. Araf iawn wyf fi i ddysgu, amyneddgar iawn wyt ti; mae dy ras yn drech na phechod  – aeth dy ras a’m henaid […]


Arglwydd, dyma fi

Arglwydd, dyma fi, Rhof fy hun yn llwyr i ti. Profais rym y gras gefais ynot ti. Ac Arglwydd, gwn yn wir ‘Bydd pob un gwendid sydd ynof fi Yn diflannu’n llwyr Trwy dy gariad a’th ras. Dal fi’n dynn, diogel yn dy gwmni. Tynn fi’n nes at dy ochr di; Â’th Ysbryd wna im […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 6, 2015

Daethom i’th addoli

Daethom i’th addoli Ger dy fron yn awr; Dod i roi ein hunain Yn offrwm drwy ein mawl. Llifa o’n calonnau Gariad atat ti, Ti a’i planodd ynom, Abba, Dad. Par i ni yn awr Roi mwynhad i ti, Rhoi ein hunain wnawn yn llwyr, Abba, Dad. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We are here to […]


Dal fy llygad, dal heb ŵyro

(Ceisio Duw yn unig) Dal fy llygad, dal heb ŵyro, Dal ef ar d’addewid wir; Dal fy nhraed heb gynnig ysgog Allan fyth o’th gyfraith bur; Boed d’orchmynion, Imi’n gysur ac yn hedd. O! darfydded imi garu Unrhyw bleser îs y ne’, A darfydded im fyfyrio Ar un gwrthrych yn dy le: Aed fy ysbryd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 26, 2015

Fe roddodd i mi fantell o fawl

Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd… Fe roes im goron lle buodd lludw, Ac olew gwerthfawr yn lle’r holl alar; O gorfoleddaf! Yn fodlon rhof fy hun i Dduw. Fe roddodd… […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 12, 2015

Fy ngorchwyl yn y byd

Fy ngorchwyl yn y byd yw gogoneddu Duw a gwylio dros fy enaid drud yn ddiwyd tra bwyf byw. Fe’m galwyd gan fy Nuw i wasanaethu f’oes; boed im ymroi i’r gwaith, a byw i’r Gŵr fu ar y groes. Rho nerth, O Dduw, bob dydd i rodio ger dy fron, i ddyfal ddilyn llwybrau’r […]


Galwaf Arnat Ti

Mae’r Arglwydd ein Duw wedi siarad, wedi galw ei bobl i ddod ynghyd, Wrth i’r nef gyhoeddi ei gyfiawnder mae ein Duw yn dod, yn ei holl ysblander. Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw. Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti, ond galwaf i arnat Ti i fy […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Gan gredu dy addewid ein Duw

Gan gredu dy addewid ein Duw, Gweddïwn ni a phlygwn i ti, ‘Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad.’   Wrth edrych ar d’addewid yn awr Gadawn holl ffyrdd drygionus y llawr; Arglwydd tyrd i lwyr iacháu Ein gwlad, ein gwlad yn awr. Anfon ddiwygiad, cyffwrdd fi. Mor aflan yw ’ngwefusau hy’; Ond […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Iesu, Iesu, maddau i mi

Iesu, Iesu, maddau i mi x2 Iesu, Iesu, diolch iti x2 Iesu, Iesu, Rwy’n dy garu x2 © 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn

  • Gwenda Jenkins,
  • July 20, 2015