logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gorfoledd i’n calon wrth fynd ar ein taith

Diolch am fyd natur (Tôn: Plwyf Llangeler) Gorfoledd i’n calon wrth fynd ar ein taith, yw’r sicrwydd, Dad nefol, dy fod wrth dy waith; tydi’n dy ddoethineb sy’n llunio a gwau patrymau byd natur, a Thi sy’n bywhau; O Roddwr pob harddwch, diolchwn o hyd am feddwl amdanom wrth lunio dy fyd. Hyfrydwch i’n llygaid […]


Gwelwn ffrwyth dy gariad tyner di, ein Tad

Cariad Duw (Tôn: Cymer ein calonnau, 75 Caniedydd yr Ifanc) Gwelwn ffrwyth dy gariad tyner di, ein Tad, yn y lliwiau cywrain sydd yn llonni’n gwlad; Ti sy’n dwyn cyfaredd machlud ar ei awr, Ti sy’n cynnau’r llusern sy’n arwyddo’r wawr; gelwi y tymhorau, deuant yn eu pryd; d’eiddo Di yw’r cynllun sy’n rhoi bod […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016

O Arglwydd Iôr, boed clod i ti

O Arglwydd Iôr, boed clod i ti am gofio eto’n daear ni â’th fendith hael ei dawn: diodaist hi ag afon Duw, fe’i gwisgaist â phrydferthwch byw, gan lwyr aeddfedu’r grawn. Tydi yw Tad y gwlith a’r glaw, a’r haul sy’n gwasgar ar bob llaw hyfrydwch dros y wlad: sisiala’r awel d’enw di, a’i seinio […]


Pan ddaw pob tymor yn ei dro

Pan ddaw pob tymor yn ei dro rhyfeddu wnawn at allu’r Iôr yn creu amrywiaeth lliw a llun ar faes a mynydd, tir a môr. Diolchwn am y gwanwyn gwyrdd yn deffro’r byd ‘r ôl trwmgwsg hir, a chyffro’r wyrth yn dweud wrth bawb fod atgyfodiad yn y tir. Ac yna’r haf a’i ddyddiau mwyn, […]


Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm,

(Tôn: Caryl, Rhys Jones) Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm, pan euro’r haul las erwau llawr y cwm, pan byncia’r adar gân yn gynnar gôr mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Iôr. Pan welaf wên ar wedd blodeuyn hardd, pan welaf wyrth aeddfedrwydd ffrwythau’r ardd, pan glywaf su aur donnau’r meysydd ŷd mi […]