logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ildio

’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]


Mae fy meiau fel mynyddoedd

Mae fy meiau fel mynyddoedd Amlach hefyd yw eu rhi’ Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry: Gwaed fy Arglwydd Sydd yn abl i olchi ‘mai. Golchi’r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled […]


Mae harmonïau’r nefol gân

Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]


Mae Iesu’n fy ngharu

[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws] Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir; Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir. Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si? Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi. Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi. Mi dalodd bris uchel […]


Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant

Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant, Rhyfeddol yw ei harddwch Ef, Cyfiawnder a gwirionedd sanctaidd, Myrddiynau sy’n ei ddilyn Ef. O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n, O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n Dragwyddol, dragwyddol. Dacw ei fyddin yn mynd allan, Llawenydd sydd yn llenwi’r tir […]


Mor anhygoel o gariadus

Cytgan: Mor anhygoel o gariadus, Mor anhygoel o bwerus. Mae’r clod i ti, Mae’r clod i ti. x2 Ail-adrodd Pen 1: Alla i ddim diolch i ti ddigon Am y pethau ti ‘di paratoi. Gad inni ddilyn ôl dy draed Weddill ein hoes. Cytgan x2 Pen 2: Alla i ddim canu i ti ddigon Am […]

  • Gwenda Jenkins,
  • July 1, 2015

Mor fawr yw cariad Duw y Tad

Mor fawr yw cariad Duw y Tad, Ni ellir byth ei fesur; Fe roddodd ef ei Fab yn Iawn I achub gwael bechadur. Does neb all ddirnad maint ei boen, Pan guddiodd Duw y Tad ei wedd; Aeth t’wyllwch dudew drwy y tir Er mwyn i’n gael tangnefedd. Mor rhyfedd yw ei weld ar groes, […]


Mor fendigedig, o mor wych

Mor fendigedig, o! Mor wych, Ydyw cariad Duw; Rhydd iachâd a maddeuant – Rhyfeddol yw! Dewch bawb i ddathlu cariad Duw yn ddyn – Awn i rannu gair y cymod, Rhannu gobaith i bob un. A chyhoeddwn fod ei deyrnas wedi dod; Dewch ymunwn yn yr anthem Sydd drwy’r tir yn seinio’i glod. Clywch y gân […]


Mor hawddgar yw dy bebyll di

Mor hawddgar yw dy bebyll di, Arglwydd y Lluoedd. F’enaid a hiraetha amdanat ti; Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ. Molaf dy enw Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw. Gwell gen i ddiwrnod gyda thi, Gwell gen i gadw drws dy dŷ, Gwell gen i ddiwrnod gyda thi Na mil unman arall. Un […]


Mynnais wlad

Ysbrydoliaeth Beiblaidd: Luc 15, Y mab wnaeth wrthryfela (Dameg y Mab Afradlon) Mynnais wlad yn bell o olwg Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad; Yno ‘roedd fy ffrindiau’n ffyddlon, nes i’m brofi’n llwyr eu brad. Pechod aflan, do fe’m gyrrodd ‘Nes a nes at gibau’r moch, Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd O dynfa gref y byd a’i […]