logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni

Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni yn rhan o deulu dinas Duw; croesawyd ni i gorlan Crist, ac ef yw’n Bugail da a’n llyw. Ar ddydd ein bedydd galwyd ni yn blant y Tad a’i gariad ef, aelodau byw am byth i Grist ac etifeddion teyrnas nef. Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni i gefnu […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016

Bugail Israel sydd ofalus

Bugail Israel sydd ofalus am ei dyner annwyl ŵyn; mae’n eu galw yn groesawus ac yn eu cofleidio’n fwyn. “Gadwch iddynt ddyfod ataf, ac na rwystrwch hwynt,” medd ef, “etifeddiaeth lân hyfrytaf i’r fath rai yw teyrnas nef.” Dewch blant bychain dewch at Iesu ceisiwch ŵyneb Brenin nef; hoff eich gweled yn dynesu i’ch bendithio […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Credo’r Bedydd

Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd, Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd; Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw, Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw. Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 13, 2016

Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn

Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn blant bach i’w freichiau ef ei hun: “Ac na waherddwch hwynt,” medd ef, “cans eiddynt hwy yw teyrnas nef.” O’n bodd dilynwn ninnau nawr esiampal gu yr Iesu mawr: pwy gaeai ddrws ei eglwys ef a’r Iesu’n agor drws y nef? THOMAS WILLIAMS, 1771-1845 (Caneuon Ffydd 642)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Dy alwad, Geidwad mwyn

Dy alwad, Geidwad mwyn, mor daer a thyner yw: mae ynddi anorchfygol swyn, fy Mrenin wyt a’m Duw. Dilynaf, doed a ddêl, yn ôl dy gamre glân, a’m bedydd sydd yn gywir sêl cyfamod diwahân. Y drymaf groes i mi fydd mwy yn hawdd i’w dwyn wrth gofio’r groes i Galfarî a ddygaist er fy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

Mi welaf ym medydd fy Arglwydd

Mi welaf ym medydd fy Arglwydd ogoniant gwir grefydd y groes, y claddu a’r codi’n Dduw cadarn ‘r ôl gorffen ei lafur a’i loes: mae’n ddarlun o angau’r Cyfryngwr a dyfnder ei drallod a’i boen; mae Seion yn cadw’r portread i gofio am gariad yr Oen. ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 650)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

O am nerth i ddilyn Iesu

O am nerth i ddilyn Iesu yn ein gyrfa drwy y byd, cadw’i air ac anrhydeddu ei orchmynion glân i gyd; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Cafodd bedydd fawredd bythol yn ei ymostyngiad llawn, ninnau, ar ei air, yn wrol ar ei ôl drwy’r dyfroedd awn; dilyn Iesu, dyma nefoedd teulu Duw. Er bod […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015

O roddwr bywyd, arwain ni

O roddwr bywyd, arwain ni i’th foli a’th fawrhau, ti sy’n bendithio teulu dyn a pheri llawenhau. I ofal ac amddifyn da dy Eglwys yn y byd cyflwyno wnawn yr ieuanc rai a’n holl obeithion drud. O arddel drwy dy ddwyfol nerth y sanctaidd ordinhad a selia mwy â’th gariad mawr adduned mam a thad. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016