logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyd-foliannwn Di, O Arglwydd

Tôn: Lyons (677 Caneuon Ffydd) Moliannu Duw Cyd-foliannwn Di, O Arglwydd, am bob cennad fu’n ein gwlad yn lledaenu dy efengyl ac ehangu dy fawrhad; trwy eu cariad a’u hymroddiad clywodd Cymry am dy ras, ac am Iesu’r un ddaeth atom i’n gwas’naethu ni fel Gwas. Cyd-weddïwn arnat, Arglwydd heddiw, pan ddirmygir Crist, a phan ddengys […]


Deuwch, hil syrthiedig Adda

Deuwch, hil syrthiedig Adda, Daeth y Jiwbil fawr o hedd: Galw’r ydys bawb o’r enw I fwynhau tragwyddol wledd; Bwrdd yn llawn, yma gawn, O foreuddydd hyd brynhawn. Ceisiwch wisgoedd y briodas, Gwisgoedd hyfryd, hardd eu lliw; Nid oes enw teilwng arnynt, Ond cyfiawnder pur fy Nuw; Lliain main ydyw’r rhain, Sydd yn cuddio pob […]


Hyfryd lais Efengyl hedd

Hyfryd lais Efengyl hedd sydd yn galw pawb i’r wledd; mae gwahoddiad llawn at Grist, oes, i’r tlawd newynog, trist; pob cyflawnder ynddo cewch; dewch â chroeso, dlodion, dewch. Cyfod, Haul Cyfiawnder llon, cyfod dros y ddaear hon; aed dy lewyrch i bob gwlad, yn dy esgyll dwg iachâd; dos ar gynnydd, nefol ddydd, doed […]


Mynnais wlad

Ysbrydoliaeth Beiblaidd: Luc 15, Y mab wnaeth wrthryfela (Dameg y Mab Afradlon) Mynnais wlad yn bell o olwg Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad; Yno ‘roedd fy ffrindiau’n ffyddlon, nes i’m brofi’n llwyr eu brad. Pechod aflan, do fe’m gyrrodd ‘Nes a nes at gibau’r moch, Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd O dynfa gref y byd a’i […]


O nefol Dad, y bythol ieuanc Dduw

O nefol Dad, y bythol ieuanc Dduw, erglyw ein llef ar ran ieuenctid byd, yng ngwanwyn oes a than gyfaredd byw, O tyn ni at dy Fab a’i antur ddrud. Rho inni wybod rhin a grym apêl a sêl ei fywyd pur a’i aberth llwyr, gan fentro nawr ei ddilyn, doed a ddêl, hyd union […]


Troi at Dduw

Tôn: Elliot (Caneuon Ffydd 219) Yn wylaidd trown atat, ein Harglwydd, i ddiolch am allwedd i’th wledd, y wledd a bar’towyd i ddeiliaid sy’n chwennych dy gariad a’th hedd; pan lethwn dan bwysau gofalon, fe ddeui i’w cario o’th fodd; yn nyddiau o golled a hiraeth estynni dy gysur yn rhodd. Yn eiddgar trown atat, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016

Tyred Iesu i’r ardaloedd

Tyred Iesu i’r ardaloedd, Lle teyrnasa tywyll nos; Na fod rhan o’r byd heb wybod, Am dy chwerw angau loes: Am fawr boen, addfwyn Oen, I holl gyrrau’r byd aed sôn. Aed i’r dwyrain a’r gorllewin, Aed i’r gogledd, aed i’r de, Roddi hoelion dur cadarnaf Yn ei draed a’i ddwylaw E’; Doed ynghyd eitha’r […]