logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, clyw

Arglwydd, clyw, O! maddau i ni. Nid oes parch i ti fel bu, Cyffeswn, cyffeswn. Pura ni, Mae’n c’lonnau mor llygredig. Ble mae’r ffydd fu gennym gynt? Hiraethwn, hiraethwn. Tyrd, Ysbryd Glân, Adnewydda Eglwys Crist. Chwyth Nefol Wynt, Rho ddiwygiad eto’i Gymru – Deffra ni drachefn, Deffra ni drachefn. Steve Fry (O Lord hear, O Lord […]


Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin

Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin ar dorri’n wawr hyderus, a throir galaru hir dy blant yn foliant gorfoleddus, a thyf y dafnau mân cyn hir yn gawod gref i ddeffro’n tir. Rho i ni newyn am dy ddawn nes cawn ein llwyr ddigoni, a syched nes cawn uno’r floedd fod llynnoedd gras yn llenwi; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Molwn di, O Dduw’r canrifoedd

Molwn di, O Dduw’r canrifoedd, am bob crefft ac am bob dawn a fu’n harddu temlau’r ddaear, a fu’n rhoi hyfrydwch llawn; arddel yma waith dy bobol, boed pob ymdrech er dy glod, llanw’r fangre â’th ogoniant drwy’r holl oesau sydd yn dod. Molwn di, O Iôr ein tadau, am i ninnau weld y tir […]


Wel dyma hyfryd fan

Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]


Y mae hiraeth arnom, Arglwydd

Y mae hiraeth arnom, Arglwydd, am dy Ysbryd ar ein hynt, i’n sancteiddio a’n hadfywio megis yn y dyddiau gynt: O disgynned nawr fel gwlith neu dyner law. Gwna ni’n iraidd fel y glaswellt o dan faethlon wlith y nen; gwna ni’n ffrwythlon fel y gwinwydd, prydferth fel y lili wen, er gogoniant byth i’th […]


Ymwêl â ni, O Dduw

Ymwêl â ni, O Dduw, yn nerth yr Ysbryd Glân, adfywia’n calon wyw, rho inni newydd gân: O gwared ni o’n llesgedd caeth, a’r farn ddaw arnom a fo gwaeth. Dy Eglwys, cofia hi ar gyfyng awr ei thrai, datguddia iddi’i bri, a maddau iddi’i bai am aros yn ei hunfan cyd, a’i phlant yn […]