logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cân serch o’r nefoedd

Cân serch o’r nefoedd sy’n llenwi ein byd; Gobaith a ddaeth i’r cenhedloedd. Er y tywyllwch a welir bob dydd – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Aeth dy efengyl drwy’r ddaear i gyd; Atseiniodd lawr drwy’r canrifoedd. Gwaed dy ferthyron wna d’eglwys yn gryf – Llewyrcha gwir oleuni Crist. Byw ry’m i ti; byddai marw yn […]


Caraf yr haul sy’n wên i gyd

Caraf yr haul sy’n wên i gyd, Duw wnaeth yr haul i lonni’r byd. Caraf y gwynt a’i gri uwchben, Duw wnaeth y gwynt i sgubo’r nen. Caraf y glaw a’i ddagrau hir, Duw wnaeth y glaw i olchi’r tir. Caraf y sêr uwch golau’r stryd, Duw wnaeth y sêr yn lampau’r byd. Caraf y […]


Cariad Iesu feddianodd fy nghalon

Cariad iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd – Cariad Iesu feddiannodd fy nghalon; Cariad Iesu ennillodd fy mryd. Harddach na lliwiau, O! Dyfnach na geiriau, O! Cryfach na theimladau, O! C’nesach yw na thanau, O! Dewch i ddathlu gyda mi Rhannu’r wefr o ddilyn Iesu. Dyma be’ di teulu’r ffydd! Ennillodd fy […]


Cariad llethol Duw

Cariad llethol Duw; Dyfnach na’r moroedd, Uwch yw na’r nefoedd. Fythol, fywiol Dduw, Ti a’m hachubodd i. Baich fy mhechod cas ‘Roed arno Ef, Fab Duw o’r nef; Talu ‘nyled drom – Mor fawr yw’th gariad di. Cariad mor ddrud yn rhodd i’n byd, Gras a thrugaredd mor rhad. Arglwydd, dyma’r gwir – Rwyf yn […]


Cariad na bu ei fath

Cariad na bu ei fath Yw cariad f’Arglwydd glân; ‘Gras i’r di-ras i’w gwneud Yn raslon,’ yw ein cân; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iachâd i ddyn; Ond fe’i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un: Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf […]


Cariad pur fel yr eira gwyn

Cariad, pur fel yr eira gwyn; Cariad, wyla dros g’wilydd dyn; Cariad, sy’n talu ‘nyled i; O Iesu, cariad.   Cariad, rydd hedd i’m calon i; Cariad, leinw y gwacter du; Cariad, ddengys sancteiddrwydd im; O Iesu, cariad. Cariad, dardda o orsedd Duw; Cariad, lifa drwy hanes byw; Cariad, ffynnon y bywyd yw; O Iesu, […]


Cenhedloedd y ddaear i gyd

Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael gwrando ar ein cân. Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael clywed newydd da; A phobl ddaw i gredu yn yr Iesu glân. Iesu ein Brenin, Ry’m am dy ddilyn Ymlaen yn dy fyddin Dan faner yr Oen. Caed buddugoliaeth, Ac mae gweledigaeth; Dyma’n […]


Cerddodd lle cerddaf fi

Cerddodd lle cerddaf fi, Safodd lle safaf fi, Teimiodd fel teimlaf fi, Fe glyw fy nghri. Gŵyr am fy ngwendid i, Rhannodd fy natur i, Fe’i temtiwyd ym mhob ffordd, Heb lithro dim. Duw gyda ni, Duw ynom ni, Rhydd nerth i ni, Emaniwel! Dioddefodd wawd ei hil, Sen a rhagfarnau fil, Lladdwyd yr un […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Cerddwn ymlaen

Cerddwn ymlaen, calonnau’n dân, A bydd pob cam yn weddi îr. Planwyd gobaith a llawenydd; Clywch yr anthem drwy y tir.   Ers dyddiau Crist mae’r fflam yn fyw, Ni all un dim ei diffodd hi, Mae ‘na hiraeth a dyhead Am adfywiad drwy y tir. Boed i’r fflam lewyrchu, Symud y tywyllwch, Troi y […]


Clodforwn ac addolwn

Clodforwn ac addolwn, O! Arglwydd, clyw ein llef. Rwyt ti goruwch yr holl dduwiau, Greawdwr dae’r a nef. Pa fodd y mae mynegi Teimladau’r galon hon? Cyn lleied yw ein geirfa I ddechrau canu’th glod. ‘Does tafod drwy’r greadigaeth Sy’n haeddu datgan bri, Ond fe gawn ni glodfori’th enw I dragwyddoldeb hir. Nid oedd ond […]