logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd grasol, dy haelioni

Arglwydd grasol, dy haelioni sy’n ymlifo drwy y byd, a’th drugaredd sy’n coroni dyddiau’r flwyddyn ar ei hyd: dy ddaioni leinw’r ddaear fawr i gyd. Rhoddi ‘rwyt dy drugareddau fel y golau glân bob dydd, a’th fendithion i’n hanheddau yn sirioli’n bywyd sydd: o’th gynteddau rhoddwn ninnau foliant rhydd. WATCYN WYN, 1844-1905 (Caneuon Ffydd 73)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Canaf am yr addewidion

Canaf am yr addewidion: ar fy nhaith lawer gwaith troesant yn fendithion. Ni fu nos erioed cyn ddued nad oedd sêr siriol Nêr yn y nef i’w gweled. Yn yr anial mwyaf dyrys golau glân colofn dân ar y ffordd ymddengys. Yng nghrastiroedd Dyffryn Baca dyfroedd byw ffynnon Duw yno’n llyn a’m llonna. I ddyfnderoedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Daeth Iesu o’i gariad

Daeth Iesu o’i gariad i’r ddaear o’r nef, fe’i ganwyd yn faban ym Methlehem dref: mae hanes amdano ’n ôl tyfu yn ddyn yn derbyn plant bychain i’w freichiau ei hun. Mae’r Iesu yn derbyn plant bychain o hyd: Hosanna i enw Gwaredwr y byd! Sefydlodd ei deyrnas i blant yn y byd, agorodd ei […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015

Dy garu di, O Dduw

Dy garu di, O Dduw, dy garu di, yw ‘ngweddi tra bwyf byw, dy garu di; daearol yw fy mryd: O dyro nerth o hyd, a mwy o ras o hyd i’th garu di. Fy olaf weddi wan fo atat ti, am gael fy nwyn i’r lan i’th gartref di; pan fwyf yn gado’r byd, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Esgyn gyda’r lluoedd

Esgyn gyda’r lluoedd fry i fynydd Duw, tynnu tua’r nefoedd, bywyd f’enaid yw. Yfwn o ffynhonnau gloywon ddyfroedd byw wrth fynd dros y bryniau tua mynydd Duw. Dringwn fel ein tadau dros y creigiau serth; canwn megis hwythau, “Awn o nerth i nerth.” Pan wyf ar ddiffygio, gweld y ffordd yn faith, Duw sydd wedi […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

Mae croeso i’w deyrnas

Mae croeso i’w deyrnas i blant bach o hyd, Agorodd ei fynwes i’w derbyn i gyd : Gadewch i blant bychain Ddod ataf-medd ef; Cans eiddo y cyfryw Yw Teyrnas y Nef. Cytgan: Mae’r Iesu yn derbyn Plant bychain o hyd, Hosanna i Enw Gwaredwr y byd. Pan oedd yn mynd heibio i’r ddinas neu’r […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 12, 2018

Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod

‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod bydd pob cyfandir is y rhod yn eiddo Iesu mawr; a holl ynysoedd maith y môr yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr dros ŵyneb daear lawr. Mae teg oleuni blaen y wawr o wlad i wlad yn dweud yn awr fod bore ddydd gerllaw; mae pen y bryniau’n […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Wel dyma hyfryd fan

Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]