Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad; Plygwn, addolwn dy Fab di, Oen mad. Down i’th addoli am weddill ein hoes, Safwn yn gyfiawn o’th flaen drwy y groes. Arglwydd y nefoedd, mor ffyddlon wyt ti, Llewyrcha arnom, O! Seren mor bur. Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad; Plygwn, addolwn dy Fab […]
Dewch, mae’n amser medi, Chwi sy’n ceisio’r Deyrnas, Rhowch eich bywyd iddo Ac fe’i cewch yn ôl. Dewch i rannu’r c’nhaeaf – Rhaid goleuo’r t’wyllwch. Galw y mae’r Arglwydd Ffyddlon wŷr. Twila Paris (Come and join the reapers), cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun © Word Music (UK) Gwein. gan CopyCare (Grym Mawl 1: 21)
Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef, Fe’i haddolaf. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin tragwyddol, Fe’i molaf Ef byth mwy! Ef yw fy Nuw, Fe saif ei wirionedd mwy. Daear a nef Gydganant ei foliant Ef. Mae’n ddyrchafedig, Y Brenin goruchaf yw Ef! Twila Paris, He is exalted; cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Straightway Music/Word Music (UK) 1985 […]