logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Adenydd colomen pe cawn

Adenydd colomen pe cawn, ehedwn a chrwydrwn ymhell, i gopa bryn Nebo mi awn i olwg ardaloedd sydd well; a’m llygaid tu arall i’r dŵr, mi dreuliwn fy nyddiau i ben mewn hiraeth am weled y Gŵr fu farw dan hoelion ar bren. ‘Rwy’n tynnu tuag ochor y dŵr, bron gadael yr anial yn lân; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

F’enaid, gwêl i Gethsemane

F’enaid, gwêl i Gethsemane, edrych ar dy Brynwr mawr yn yr ing a’r ymdrech meddwl, chwys a gwaed yn llifo i lawr. Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf rhyfedd fu erioed! Yn yr ardd, pan ddaliwyd Iesu, fe atebodd drosom ni, “Gadewch iddynt hwy fynd ymaith, yn eu lle cymerwch fi!” Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod

O’th flaen, O Dduw, ‘rwy’n dyfod gan sefyll o hir-bell; pechadur yw fy enw, ni feddaf enw gwell; trugaredd ‘rwy’n ei cheisio, a’i cheisio eto wnaf, trugaredd imi dyro, ‘rwy’n marw onis caf. Pechadur wyf, mi welaf, O Dduw, na allaf ddim; ‘rwy’n dlawd, ‘rwy’n frwnt, ‘rwy’n euog, O bydd drugarog im; ‘rwy’n addef nad […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob

Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob eisteddodd gynt i lawr, tramwyodd drwy Samaria, tramwyed yma nawr; ‘roedd syched arno yno am gael eu hachub hwy, mae syched arno eto am achub llawer mwy. Mwy, mwy, am achub llawer mwy, mae syched arno eto am achub llawer mwy. Goleua’n meddwl ninnau I weld dy ddawn, O! Dduw, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015