logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd ein bywyd, Duw ein hiachawdwriaeth

Arglwydd ein bywyd, Duw ein hiachawdwriaeth, seren ein nos a gobaith pob gwladwriaeth, clyw lef dy Eglwys yn ei blin filwriaeth, Arglwydd y lluoedd. Ti yw ein rhan pan ballo pob cynhorthwy, ti yw’n hymwared yn y prawf ofnadwy; cryfach dy graig nag uffern a’i rhyferthwy, Arglwydd, pâr heddwch. Heddwch o’n mewn, i ddifa llygredd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd, a’i chwŷs fel defnynnau o waed, aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad, a’i arwain i Galfari fryn, a’i hoelio ar groesbren o’i fodd; pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? THOMAS LEWIS, 1760-1842 (Caneuon Ffydd 519)  

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015