logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deisyfwn am dy fendith fawr

Deisyfwn am dy fendith fawr yn awr i’r ddau a unwyd, bydd di, yr Hollalluog Dduw, yn llyw i serch eu bywyd. Ar eu hadduned rho dy sêl ac arddel eu hymrwymiad, ac anfon di y gawod wlith yn fendith ar eu cariad. Arhosed haul dy gariad mwy ar fodrwy eu cyfamod, a thywys hwy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016

I blith y ddau neu dri

I blith y ddau neu dri yr awron tyred di, ein gwendid gwêl, rho inni sêl, O Dad, ymwêl â ni: cryfha ein ffydd yn ôl y dydd, Breswylydd mawr y berth, ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw, yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw, O Dduw, bydd inni’n nerth. Ein cri, ein Tad, a’n […]


Mawrygwn di er mwyn dy groes

Mawrygwn di er mwyn dy groes am gynnal tadau’r ffydd a’u tywys drwy bob cur a loes o’u rhwymau caeth yn rhydd: ti roddaist iddynt ras y nef a’r weledigaeth glir, dy Ysbryd di oedd yn eu llef wrth ddadlau hawliau’r gwir. Tydi, yr Archoffeiriad mawr, a roddaist iddynt nerth i gerdded tua thoriad gwawr […]


Pan daena’r nos o’m cylch

Pan daena’r nos o’m cylch ei chwrlid du yn fraw, fe gilia’r arswyd wrth i mi ymaflyd yn dy law. Pan chwytha’r gwyntoedd oer i fygwth fflam fy ffydd, ar lwybyr gweddi gyda thi caf nerth yn ôl y dydd. Pan gyll holl foethau’r byd eu swyn i gyd a’u blas, mae swcwr, Arglwydd, ynot […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016

Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron

Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron diolchwn yn yr oedfa hon am dy addewid rasol di i fod ymhlith y ddau neu dri. O fewn dy byrth mae nefol rin a heddwch i’n heneidiau blin, ac ennaint pêr dy eiriau di yn foddion gras i’r ddau neu dri. O tyred yn dy rym i’n plith […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016

Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud

Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd, a duwiau swyn yn cymell yn ddi-oed wrth agor llwybrau fyrdd o flaen fy nhroed, ar groesffordd gynta’r daith rho imi’r ddawn i oedi, hyd nes cael y llwybyr iawn. Yn anterth haf a’m dyddiau’n wyn a hir a’r wybren […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016