logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd

Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd, i ti a roes gerbron y byd eu ffydd, dy enw, Iesu, bendigedig fydd: Haleliwia, Haleliwia! Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a’u mur, ti, Iôr, fu’n Llywydd yn eu cad a’u cur, ti yn y ddunos oedd eu golau pur: Haleliwia, Haleliwia! Fendigaid gymun, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes

Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes, un seren sy’n y nef, a ninnau’n croesi maes a bryn i’r fan y gorwedd ef, holl obaith dyn yw ef. Nid oes ogoniant yn y fan, dim ond yr eiddo ef, a’r golau mwyn ar wyneb Mair fel gweddi tua’r nef, o galon mam i’r nef. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau

Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau, pan fo’r cysgodion draw’n dyfnhau, tydi, yr unig un a ŵyr, rho olau’r haul ym mrig yr hwyr. Er gwaeled fu a wnaethom ni ar hyd ein hoes a’i helynt hi, er crwydro ffôl ar lwybrau gŵyr, rho di drugaredd gyda’r hwyr. Na chofia’n mawr wendidau mwy, a maint eu […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Pêr fydd dy gofio, Iesu da

Pêr fydd dy gofio, Iesu da, a’r galon drist a lawenha; na’r mêl a’r mwynder o bob rhyw bod gyda thi melysach yw. Ni chenir cân bereiddiach ryw, nid mwynach dim a glywo clyw; melysach bryd ni wybydd dyn nag Iesu, Unmab Duw ei hun. Ti, obaith edifeiriol rai, ti wrth gyfeiliorn drugarhai; a’th geisio, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016

Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi

Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi, cyfoded lef i’n canlyn ni, i’r Arglwydd, Haleliwia; ti, danbaid haul, oleuni gwiw, di, arian loer o dirion liw, i’r Arglwydd, i’r Arglwydd, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia! Fwyn ddaear-fam o ddydd i ddydd i ni sy’n rhoi bendithion rhydd, i’r Arglwydd, Halelwia; dy ffrwyth, dy flodau o bob rhyw, […]