logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Byd newydd yw ein cri

Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri; Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri. O chwifiwn faner tegwch uwchben y gwledydd. A tharo drymiau hedd ymysg cenhedloedd. Fe glywir sain trefn newydd yn dynesu. Cariad Duw lifa ’gylch y byd gan ddwyn rhyddid! O cydiwn ddwylo’n gilydd ar draws […]


Dro ar ôl tro

Dro ar ôl tro Atat dof yn ôl; Cofio’r cariad cyntaf. Dro ar ôl tro Bywyd roist i mi Fel gwlith yn y bore. Trugarog, llawn gras Araf i ddigio; Pob dieithryn, o Dduw, Sy’n profi dy groeso. Dro ar ôl tro, Dro ar ôl tro. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Time and again: Caroline Bonnett, […]


Fe’th ddilynaf di at y Groes

Fe’th ddilynaf di at y groes A phlygu i lawr, plygu i lawr. Fe’th ddilynaf di at y groes, A phlygu i lawr, plygu i lawr. Gwisg fi â’th gyfiawnder di, Golch fi yn lân o’m haflendid. Rwy’n dewis dilyn ôl dy droed. O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr. Rho dy gusan i’m hiacháu, […]


Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml

Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml, Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl. Ac wrth glosio atat ti ‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir, Teimlo cariad a hedd O weled dy wedd, Meseia. A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol; Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol. Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd […]