logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu roes addewid hyfryd

Iesu roes addewid hyfryd cyn ei fynd i ben ei daith yr anfonai ef ei Ysbryd i roi bywyd yn ei waith; dawn yr Ysbryd, digon i’r disgyblion fu. Cofiodd Iesu ei addewid; O cyflawned hi yn awr, fel y gwnaeth ar ddydd y Sulgwyn pan achubwyd tyrfa fawr; enw Iesu gaiff yr holl ogoniant […]


Pa le, pa fodd dechreuaf

Pa le, pa fodd dechreuaf foliannu’r Iesu mawr? Olrheinio’i ras ni fedraf, mae’n llenwi nef a llawr: anfeidrol ydyw’r Ceidwad, a’i holl drysorau’n llawn; diderfyn yw ei gariad, difesur yw ei ddawn. Trugaredd a gwirionedd yng Nghrist sy nawr yn un, cyfiawnder a thangnefedd ynghyd am gadw dyn: am Grist a’i ddioddefiadau, rhinweddau marwol glwy’, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Ysbryd Glân, golomen nef

Ysbryd Glân, golomen nef, gwrando’n rasol ar ein llef; aethom yn wywedig iawn, disgyn yn dy ddwyfol ddawn. Oer ein serch, a gwan ein ffydd, ein Hosanna’n ddistaw sydd; tyred, tyred, Ysbryd Glân, ennyn ynom nefol dân. Er na haeddwn ni dy gael, eto ti wyt Ysbryd hael; tyred, tyred yn dy ras, maedda’n hanghrediniaeth […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015