logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daw brenhinoedd o bob gwlad

Daw brenhinoedd o bob gwlad, Plygant oll o’th flaen ryw ddydd. Bydd pob llwyth a phob un iaith Yn addoli’n Duw yn rhydd. O Seion y daw – Fe’i clywir drwy’r byd, Y gân am dy groes, drwy’r ddaear i gyd. O addfwyn Oen Trwy dy aberth di achubiaeth gaed. (Grym Mawl 2: 82) Robin […]


Fel aur sy’n werthfawr

Fel aur sy’n werthfawr, a melysder diliau mêl, Gwn dy fod yn caru’r ddinas hon – O! gwêl Yr holl blant sy’n chwarae ar ei strydoedd hi, A phob baban bach sy’n llefain yn ei grud. Pawb sy’n drysu neu’n syrffedu yn ei waith, Neu sy’n diodde rhwystredigaeth araf daith. Rwy’n teimlo gwefr wrth feddwl, […]


Rhain ydyw dyddiau Elias

Rhain ydyw dyddiau Elias, Yn datgan yn glir Air yr Iôr; A rhain ydyw dyddiau’th was ffyddlon, Moses, Yn adfer cyfiawnder i’r tir. Ac er mai dydd prawf welwn heddiw, Dydd newyn a th’wyllwch a chledd, Nyni ydyw’r llef o’r diffaethwch; Galwn: ‘O, paratowch lwybrau yr Iôr.’ Ac wele daw ar gymylau’r nef, Disglair fel […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Ti yw’r llew o lwyth Jwda

Ti yw’r llew o lwyth Jwda, Yr Oen gafodd glwy’, Fe ddyrchefaist i’r Nefoedd – Teyrnasu wnei byth mwy; Ac ar ddiwedd yr oes wrth it adfer y byd Fe wnei gasglu’r cenhedloedd o’th flaen di. Caiff holl lygaid dynoliaeth eu hoelio Ar Oen Duw groeshoeliwyd in, A doethineb, a chariad, a thegwch Deyrnasa ‘r […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015